Cefnogwyr Caerdydd yn dewis lliw du i drowsusau'r tîm

  • 31 Mai 2013
Mark Hudson
Capten Caerdydd Mark Hudson fu'n modelu'r pedwar dewis o liwiau oedd gerbron y cefnogwyr ar gyfer trowsusau'r tymor newydd

Mae rhai o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi pleidleisio o blaid trowsusau du y tymor nesaf ar ôl anfodlonrwydd ar y dewis gwreiddiol.

Pan ddatgelodd y clwb liwiau'r crysau a throwsusau newydd ar eu gwefan ddydd Mercher, roedd y crysau newydd yn dal yn goch, y trowsusau hefyd yn goch ond yn goch tywyllach.

Dangosodd y cefnogwyr eu hanfodlonrwydd, a dywedodd y clwb y byddai deiliaid tocynnau tymor yn pleidleisio ar bedwar dewis o liwiau i'r trowsusau.

Mae'r cwynion yn sgil anghydfod y llynedd pan benderfynodd perchennog y clwb, Vincent Tan o Malaysia, ail-frandio'r clwb a newid lliw crysau'r clwb o las i goch.

Roedd gan y cefnogwyr oedd â'r hawl i bleidleisio tan 2:00pm ddydd Gwener i gofrestru eu pleidlais ac yn fuan wedyn cyhoeddodd y clwb ar eu gwefan Twitter swyddogol mai du oedd y dewis.

Dathlu ennill y Bencampwriaeth
Bydd clwb Caerdydd yn gwisgo'r dillad newydd yn eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair

Dywedodd y datganiad: "Mae'r pleidleisiau wedi cael eu cyfri a'u gwirio, gyda'r mwyafrif o ddeiliaid tocynnau tymor yn dewis trowsusau du i'r clwb."

Du oedd lliw trowsusau'r clwb y tymor diwethaf pan enillodd Caerdydd ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair drwy ennill y Bencampwriaeth.

Dywedodd swyddogion y clwb y bydden nhw'n trafod gyda'r gwneuthurwyr Puma er mwyn cynhyrchu'r cit newydd "cyn gynted â phosib".