Yr Urdd: Diffyg chwaraeon Cymraeg

  • 31 Mai 2013
Efa Gruffudd Jones
Mae Efa Gruffudd Jones yn galw am well darpariaeth Cymraeg

Mae Efa Gruffudd Jones wedi galw ar awdurdodau lleol i gynllunio'n well i ddarparu chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd bod gwaith y sefydliad yn dangos bod galw enfawr am ddarpariaeth chwaraeon cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc y tu allan i'r ysgol.

Mae hi'n mynnu y dylai awdurdodau lleol wneud mwy i ddarparu cyfleoedd chwaraeon i bobl ifanc Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.

Daw sylwadau Ms Gruffudd Jones mewn ymateb i gyhoeddiad Cymdeithas yr Iaith bod ei hymchwil yn dangos bod bron i hanner cynghorau Cymru yn methu â darparu gwersi nofio cyfrwng Cymraeg.

Ond yn ôl y Prif Weinidog, rhaid sicrhau bod y galw yno'n gyntaf cyn cynnig y ddarpariaeth.

'Galw enfawr'

Ar y diwrnod y daeth cyhoeddiad gan Chwaraeon Cymru y byddan nhw'n buddsoddi £250,000 yng ngweithgarwch chwaraeon yr Urdd am yr ail flwyddyn yn olynol, dywedodd Ms Gruffudd Jones bod yr Urdd yn darparu gwasanaethau lle mae awdurdodau lleol wedi methu.

"Beth yn ni wedi profi yn ddiamheuol yw bod galw enfawr am ddarpariaeth chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

"Ein nod ni yw gwneud yn siŵr bod pob plentyn sy'n derbyn y mwyafrif o'u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu cael darpariaeth chwaraeon tu allan i'r ysgol trwy'r Gymraeg, bod hynny'n ffordd o atgyfnerthu eu Cymreictod nhw ac wrth gwrs eu cadw nhw'n iach a heini i'r dyfodol.

"Mae'r Cyngor Chwaraeon wedi buddsoddi yn y gwasanaeth yma, a dros y flwyddyn ddwetha ry'n ni wedi gallu cynyddu nifer y swyddogion sydd gyda ni ac... maen nhw'n llwyddo.

"Ydy'r gwasanaeth yma'n cymryd lle darpariaeth y cynghore sir? I raddau mae'n cynlluniau ni'n llwyddo gan bod awdurdodau lleol wedi methu â darparu.

"Mae rhai awdurdodau'n gweithio'n dda mewn partneriaeth gyda ni, mae rhai ardaloedd lle dy'n nhw ddim wedi cynllunio; does ganddyn nhw mo'r capasiti i gynnig darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."

Y "sefyllfa ddelfrydol" medd Ms Gruffydd Jones yw y byddai darpariaeth ar gael yn "hollol naturiol" yn ein cymunedau ymhen deng mlynedd, ond y bydd yr Urdd yn llenwi'r bwlch "yn y cyfamser".

"Bydden i'n sicr yn galw ar awdurdodau lleol i gynllunio'n well ac i ddarparu ac mae'n gwaith ni wedi profi bod yr angen yn bendant yna," meddai.

Prif Weinidog

Roedd y Prif Weinidog ar faes yr Urdd i lansio'r Gynhadledd Fawr ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd hi'n fater syml o orfodi cynghorau sir i ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg y tu allan i'r ysgol.

"Mae'n amhosib datrys hwnna nawr," meddai. "Rhaid sicrhau bod digon o siaradwyr Cymraeg i ddysgu tu fas i'r ysgol. Mae'r nod yn iawn, ond ni methu gwneud dros nos."

Mynnodd hefyd bod rhaid cynnig beth mae pobl ei eisiau, gan ddweud nad yw pobl yn ei ardal leol ym Mhen-y-bont yn defnyddio'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael.

"Yn fy ardal i, mae gwaith da gan Fenter Bro Ogwr ond a yw'r plant moyn mynd i wneud y gweithgareddau hynny?

"Mae eisiau symud at hynny, digon teg."

Gofynnodd BBC Cymru Arlein am ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.