'Sgwrs genedlaethol' am ddyfodol yr iaith

Carwyn Jones y Prif Weinidog
Fel rhan o'r sgwrs genedlaethol dywedodd Carwyn Jones y byddai digwyddiadau yn cael eu cynnal drwy Gymru i drafod dyfodol yr iaith

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwadu bod trafodaeth ar sicrhau dyfodol i'r iaith yn dechrau'n rhy hwyr.

Roedd Carwyn Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Gwener i ddechrau "sgwrs genedlaethol" am ddyfodol y Gymraeg, fydd yn gorffen gyda 'Chynhadledd Fawr' undydd ar yr iaith yn Aberystwyth fis Gorffennaf.

Dywedodd wrth aelodau fforwm newydd yr Urdd - 'Bwrdd Syr IfanC' - ei fod eisiau gwybod pam fod pobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg yn siarad Saesneg ymysg ei gilydd.

Roedd cyfle wedyn i'r bobl ifanc siarad yn agored â'r Prif Weinidog heb bresenoldeb y wasg ynglŷn â sut maen nhw yn defnyddio eu Cymraeg a'r problemau maen nhw'n eu hwynebu wrth iddyn nhw ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd.

Gostyngiad

Dywedodd Carwyn Jones bod canlyniadau'r cyfrifiad wedi bod yn siom iddo ac mai'r her nawr "yw sicrhau bod pobl yn defnyddio'r iaith".

Wrth ymateb i gwestiynau, mynnodd nad oedd neb wedi disgwyl y byddai canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos gostyngiad yn nifer siaradwyr y Gymraeg, ac nad oedd felly'n bosibl i'r llywodraeth ymateb i'r broblem cyn cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad.

Yn 2001 roedd 20.5% yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg ac yn 2011 roedd y ffigwr cyfatebol yn 19.0%.

Er bod poblogaeth Cymru wedi tyfu ers Cyfrifiad 2001, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011.

"Doedd neb yn gwybod nac yn erfyn y ffigyrau hyn. Rhaid deall pam fod hynna wedi digwydd," mynnodd.

Siarad â phobl gyffredin

Nod y llywodraeth wrth gynnal y 'Sgwrs Genedlaethol' yw siarad â phobl gyffredin, yn hytrach na lobïwyr a phobl sy'n gyfarwydd â siarad â'r llywodraeth am ddyfodol y Gymraeg.

"Pan weles i'r ffigyrau, un peth wnaeth 'y nharo i oedd bod rhaid gwrando ar farn... pobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd, yn ei defnyddio ar yr heol, pobl sydd ddim yn wleidyddol," meddai Mr Jones wrth fforwm yr Urdd.

"Mae'r gynhadledd ei hunan yn edrych yn sylfaenol ar sicrhau bywoliaeth gymunedol i'r iaith Gymraeg.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n deall beth yw'r ffactorau sy'n peryglu'r iaith mewn rhai ardaloedd a beth yw'r ffactorau sy'n hybu'r iaith mewn llefydd eraill."

Dywedodd y Prif Weinidog bod y llywodraeth wedi symud 35% o'i swyddi i ardaloedd fel Llandudno ac Aberystwyth yn barod er mwyn rhoi hwb economaidd i ardaloedd y tu hwnt i Gaerdydd, ac mai sicrhau economi gref yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn draddodiadol gryf yw un ffordd o sicrhau ei dyfodol.

Bydd y wybodaeth gaiff ei chasglu yn cael ei defnyddio i baratoi a chyhoeddi adroddiad ar ôl y Gynhadledd Fawr a bydd yn cael ei chyflwyno i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg sy'n cynghori gweinidogion Cymru ar eu strategaeth iaith.