Gwobrwyo teuluoedd sy'n dysgu'r iaith

  • 29 Mai 2013
Teulu Evans
Y Teulu Evans o Gaerdydd enillodd y trip i Langrannog

Ar y diwrnod y cyhoeddodd yr Urdd ei fod am sefydlu panel i ddysgwyr roedd pedwar teulu yn cymryd rhan mewn her arbennig i ddysgwyr ar faes yr eisteddfod.

Roedd y gystadleuaeth ar gyfer teuluoedd gydag o leiaf un aelod yn ddysgwr.

Teulu Martin
Mae dysgu Cymraeg yn lot o hwyl yn ôl Mr Martin
Teulu Gunneberg
Mae Cymraeg, Almaeneg a Saesneg yn cael ei siarad gan y teulu Gunneberg
Teulu Malpas
Mae'r teulu Malpas yn falch o wneud yr ymdrech i ddysgu'r iaith

Rhoddwyd pedair her i'r teuluoedd oedd yn dod o Gaerdydd, Pontypridd, Cwm Rhymni a Chraig Cefn Parc, Clydach - clocsio, saethyddiaeth, cwis a chrwydro'r maes i gael lluniau gydag enwogion.

"Cystadleuaeth i bobl sydd wedi bod yn dysgu'r Gymraeg ac wedi dechrau defnyddio'r Gymraeg fel teulu yw hon," meddai Helen Prosser o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg sydd wedi trefnu'r her ar y cyd â'r Urdd.

"Nid peth hawdd yw newid iaith teulu ond ein gwaith ni yw dangos yr hyn sy'n bosib a rhoi cyfle i fwynhau a dangos y cyfoeth sydd gan yr Urdd ar faes y Steddfod.

"Rydyn ni a'r Urdd yn gweithio tuag at yr un nod," ychwanegodd.

Roedd y teulu buddugol yn derbyn Gwobr Cymraeg i'r teulu yn y ganolfan i ddysgwyr ar y maes, y Cwtsh Cymraeg, brynhawn dydd Mercher, Mai 29.

Eglurodd Tim Evans, tad y teulu buddugol o Gaerdydd, bod ei fab wedi troi'n hynod gystadleuol wrth wynebu'r holl heriau, am ei fod yn ysu i ennill y wobr, sef penwythnos teulu yn Llangrannog.

'Colli mas'

Dywedodd mam y teulu, Sian, iddyn nhw benderfynu dysgu Cymraeg "er mwyn y plant".

"Pan o'n i'n ifanc, ro'n i'n byw drws nesa i bobl oedd yn siarad Cymraeg," meddai.

"Roeddwn i'n teimlo 'mod i'n colli mas."

Roedd ei gŵr hefyd, yn teimlo'r un fath.

"Roedd yn fy mhoeni i, ro'n i'n gweld bod rhywbeth ar goll yng Nghymru," meddai.

"Mae pobl Cymru yn meddwl mai diwylliant Cymru yw cefnogi rygbi; maen nhw'n colli mas.

"Rydw i eisiau gwneud yn siŵr nad yw'r plant yn colli mas ar y diwylliant."

'Taith'

Roedd y teulu Martin, y teulu Gunneberg a'r teulu Malpas hefyd yn cystadlu.

Mae Richard Martin a'i gymar April Clark yn dweud iddyn nhw benderfynu dysgu fel teulu er mwyn "cefnogi" eu merch fach.

"Mae'n dda i'r teulu fynd ar daith gyda'n gilydd," meddai Richard.

"Ac mae'n lot o hwyl - mwy o hwyl na gwaith."

Mae'r teulu Gunneberg o Graig Cefn Parc, Abertawe, yn siarad Cymraeg, Saesneg ac Almaeneg. "Mae'n bwysig rhoi cyfle i'r plant siarad dwy iaith," meddai Andar Gunneberg, sy'n wreiddiol o ardal y Ruhr yn yr Almaen.

"Roedd y dewis rhwng dysgu Almaeneg a Chymraeg a 'dyn ni'n byw yng Nghymru felly'n meddwl bod y Gymraeg yn fwy pwysig."

Eglura ei wraig, Maria, ei bod yn anodd cynnal sgwrs y teulu yn y Gymraeg bob amser, er mai dyna'r nod. Mae hi'n wreiddiol o swydd Efrog.

"Mae'n anodd, achos dwi'n siarad Saesneg ac Andar yn siarad Almaeneg. Ry'n ni'n trïo siarad Cymraeg ond weithiau'n syrthio nôl i'r Saesneg."

Mae'r tri mab yn dweud bod defnyddio'r tair iaith weithiau'n eu drysu, ond ei bod "wastad yn hwyl".

Mae Fiona a Gerwyn Malpas o Hengoed yn dweud eu bod nhw'n llwyr sylweddoli pan benderfynon nhw ddysgu Cymraeg y byddai'n "anodd iawn" ond maen nhw'n falch iddyn nhw wneud yr ymdrech.

Dechreuon nhw ar y daith pan yn disgwyl eu plentyn cyntaf, ac maen nhw'n ddiolchgar iawn i'w tiwtoriaid ac am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw i ddefnyddio'u Cymraeg yn eu hardal.

"Mae llawer o gyfle i siarad Cymraeg, llawer o weithgareddau yng Ngwent gyda'r fenter iaith a Choleg Pont-y-pŵl," eglura Fiona.

Cyhoeddodd yr Urdd fore Mercher eu bod yn sefydlu Panel Dysgwyr ar gyfer y mudiad.

"Mae ganddon ni banel cerdd, panel llenyddiaeth a phanel technoleg, ond nid panel dysgwyr," meddai Cyfarwyddwr y mudiad Aled Siôn.

Canolfan ar gyfer dysgwyr yw'r Cwtsh Cymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd lle mae cyfle i ddysgwyr a siaradwyr rhugl gael "paned a chlonc" a chymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a chyflwyniadau.