Cyhoeddi enw beiciwr fu farw ar Ail Bont Hafren

Ail Bont Hafren
Oherwydd y ddamwain cafodd y lonydd i gyfeiriad y dwyrain eu cau am chwe awr nos Wener.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw ar Ail Bont Hafren nos Wener.

Roedd Raymond Jenkins, 72 oed, o Faesycymer ger Y Coed Duon.

Oherwydd y ddamwain cafodd y lonydd i gyfeiriad y dwyrain eu cau am chwe awr nos Wener.

Bu farw Mr Jenkins yn y fan a'r lle wedi'r ddamwain am 5:50pm.

Dywedodd llefarydd yr heddlu: "Rydyn ni'n ddiolchgar i yrwyr oherwydd eu hamynedd tra oedd y gwasnaethau brys yn gwneud eu gwaith."