Ymchwilio i ddamwain farwol

  • 25 Mai 2013

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i ddyn lleol ifanc gael ei ladd mewn damwain ffordd ar Heol Las, Yr As Fawr ym Mro Morgannwg nos Wener.

Bu farw yn y fan a'r lle.

Roedd y dyn 23 oed yn gyrru Peugeot 306 gwyrdd i gyfeirlad Saint-y-Brid pan darodd glawdd am 10pm.

Yn y cyfamser, dywedodd Heddlu Gwynedd fod damwain ar yr B4415 ger Pwllheli nos Wener.

Am 10.05pm cafodd gyrrwr anafiadau difrifol pan darodd ei Suzuki Vitara wal.

Aed ag e i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Dylai unrhyw dystion i'r ddwy ddamwain ffonio'r heddlu ar 101.