Mwy o deithiau o Faes Awyr Caerdydd

Mae cwmni wedi dweud y bydd mwy o deithiau o Faes Awyr Caerdydd.

Cyhoeddodd Vueling, cwmni sy'n cynnig teithiau awyr rhad, y byddai o hyn ymlaen yn hedfan i Alicante a Malaga drwy gydol y flwyddyn.

Fe wnaeth llai na miliwn ddefnyddio'r maes awyr yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2013, y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Dywedodd Jon Horne, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd: "Rydym wedi bod yn gwrando ar yr hyn y mae pobl Cymru eisiau ac roedd un neges glir ymysg yr ymatebion, bod angen gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn."

Prynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr ym mis Mawrth am £52m.

Beirniadodd y Blaid Geidwadol y penderfyniad ond mae'r llywodraeth wedi dweud bod hyn yn "werth am arian".

Straeon perthnasol