Triwantiaeth: Rhieni i dderbyn dirwyon

  • 20 Mai 2013
Leighton Andrews
Image caption Mae Leighton Andrews eisiau lleihai cyfradd triwantiaeth

Gallai rhieni plant sy'n colli ysgol yn gyson oherwydd triwantiaeth wynebu dirwyon o hyd at £120 yn ôl cynlluniau llywodraeth Cymru.

Bydd y mesurau newydd yn dod i rym ym mis Medi pan fydd rhieni sy'n methu ag atal eu plentyn rhag colli gwersi yn derbyn dirwy o £60.

Os nad yw'r ddirwy'n cael ei thalu o fewn pedair wythnos bydd yn dyblu i £120.

Gallai rhieni sy'n gwrthod talu gael eu herlyn yn y llysoedd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews fod "cytundeb cyffredinol" ynglŷn â'i gynigion yn dilyn ymgynghoriad.

"Mae'r system hysbysiadau cosb yn opsiwn ychwanegol y bydd modd ei gynnwys yn y strategaethau ymyrryd a fabwysiedir gan yr awdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael ag achosion lle nad yw colli'r ysgol yn arfer sydd wedi ymwreiddio i'r un graddau," meddai Mr Andrews.

Roedd y gyfradd driwantiaeth yng Nghymru yn 1.4% ar gyfartaledd yn y flwyddyn 2011/12 ond roedd graddfeydd naw awdurdod addysg lleol yn uwch.

Caerdydd oedd a'r gyfradd driwantiaeth uchaf - 2.7%.

Er bod y gyfradd wedi bod yn gostwng yng Nghymru ers 2005/06 mae gweinidogion o'r farn fod angen gweithredu i geisio'i gostwng ymhellach.

Siomedig

Yn ôl y llywodraeth, nid oes disgwyl i neb gael eu dirwyo yn ystod misoedd cyntaf y drefn newydd.

Mae athrawon yr NUT Cymru wedi dweud eu bod nhw'n siomedig gyda'r penderfyniad.

Dywedodd eu swyddog polisi Owen Hathaway: "Ry'n ni'n gwybod bod triwantiaeth yn broblem mewn ysgolion.

"Ond mae'r sefyllfa eisoes yn gwella. Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos y lefelau uchaf erioed o bresenoldeb yn y sector ysgolion cynradd a gwelliant sylweddol mewn ysgolion uwchradd.

"Mae'r undeb yn poeni y gallai cyflwyno dirwyon gael effaith wrthgynhyrchiol a tanseilio'r gwaith da sy'n cael ei wneud."

'Cam yn ôl'

Mae'r tair gwrthblaid yn y Cynulliad wedi beirniadu'r gweinidog am benderfynu cyflwyno dirwyon.

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Angela Burns: "Dyma enghraifft o'r Blaid Lafur ddiog yn rhoi eu hwyau i gyd mewn basged o gosbi - ar draul cefnogaeth a chyswllt.

"Mae perygl y bydd y dirwyon yma'n taro'r bobl fregus galetaf ac yn anwybyddu'r rhesymau go iawn sydd y tu ôl i driwantiaeth.

"Rwy'n ofni y bydd dirwyon yn pentyrru tra bydd ymddygiad yn parhau i fod yr un fath."

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas: "Cam yn ôl yw cyflwyno hysbysiadau cosb benodol. Nid ydynt wedi gweithio pan gyflwynwyd hwy yn Lloegr. Mae angen i'r Gweinidog Addysg ddweud lle'r aiff unrhyw arian a godir."

"Buasai llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio dulliau megis swyddogion cyswllt rhwng y cartref a'r ysgol i fynd i'r afael ag absenoldeb, fel bod polisïau yn cefnogi disgyblion a'u teuluoedd, yn hytrach na'u cosbi trwy eu dirwyo. Mae cydberthynas rhwng ardaloedd o amddifadedd uchel a lefelau uchel o absenoldeb."

Roedd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn credu y dylai'r llywodraeth fynd i'r afael a'r rhesymau dros driwantiaeth.

"Dwi'n meddwl y bod hwn yn ymateb anghymesur i'r broblem a bod angen atebion mwy creadigol na system ddirwy," meddai Aled Roberts.

Straeon perthnasol