Llys: Dau ar gyhuddiad o lofruddio

  • 20 Mai 2013

Mae dau wedi bod yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar gyhuddiad o lofruddio menyw yn Wrecsam yn Chwefror.

Cafodd Alexandros Wetherill, 23 oed o Wrecsam, a Christopher Curran, 34 oed heb gyfeiriad sefydlog, eu cyhuddo o ladd Glynis Solmaz, 65 oed, yn ei chartre' ym Mryn Hafod.

Bydd y ddau yn y ddalfa cyn ymddangos yn y llys yn yr hydref.