Mellten yn taro tŷ

Mae mellten wedi taro tŷ ger Hwlffordd yn Sir Benfro brynhawn Gwener gan achosi difrod.

Cafodd y gwasanaethau tân ei galw i'r tŷ yn Freystrop toc wedi tri.

Mae difrod wedi ei wneud i'r tô ond chafodd neb ei anafu.

Mi oedd yna law mawr a chenllysg yn ystod y storm oedd yn gwneud amodau gyrru yng ngorllewin Cymru yn anodd.

Roedd yr A40 wedi llifo gan ddŵr ger Whitland ar un cyfnod yn ystod y dydd ac adroddiadau bod dŵr dwfn ar nifer o'r ffyrdd yn yr ardal.

Cafodd y system signal trenau yn ardal Hwlffordd hefyd ei tharo gan y mellt.

Mae bysiau nawr ar gael yn hytrach na threnau rhwng Aberdaugleddau a Chaerfyrddin.