Gwasanaeth coffa i gofio milfeddyg

  • 18 Mai 2013
Catherine Gowing Image copyright North Wales Police
Image caption Mae ffrindiau Catherine Gowing eisiau cofio person mor hawddgar oedd hi

Daeth cannoedd o bobl i wwasanaeth coffa yng ngogledd Cymru i gofio am y milfeddyg o Iwerddon Catherine Gowing a gafodd ei llofruddio.

Roedd y ferch 37 oed yn byw ger Y Wyddgrug ac fe gafodd ei lladd ym mis Hydref y llynedd.

Cafodd cariad y fenyw oedd yn rhannu tŷ gyda hi, Clive Sharp ei garcharu am oes ar ôl iddo gyfaddef ei llofruddio.

Ffrindiau a chydweithwyr Catherine Gowing drefnodd y digwyddiad ac roedd rhai o aelodau o'i theulu hefyd yno.

Dywedodd ei chyfaill Carole Davies, oedd hefyd yn gweithio gyda hi yn y filfeddygfa, eu bod nhw wedi cynnal y gwasanaeth am eu bod yn teimlo bod eu hatgofion ohoni wedi mynd ar goll oherwydd y modd y bu hi farw:

"Mi anghofiwyd am bersonoliaeth Catherine. Bydd y gwasanaeth yn ffordd i atgoffa pobl person mor hawddgar oedd hi a bod ganddi hiwmor gwych hefyd," meddai.

'Mewn ysbryd'

Wedi'r gwasanaeth, dywedodd chwaer Catherine Gowing, Emma MacGuire:

"Roedd y gwasanaeth heddiw yn goffâd hyfryd o fy chwaer. Roedd hi yma gyda ni mewn ysbryd heddiw."

Daeth tua 300 o bobl i Eglwys Babyddol Dewi Sant yn Yr Wyddgrug gan ganu rhai o hoff ganeuon Ms Gowing, a bu rhai o'i chydweithwyr yn y filfeddygfa yn Yr Wyddgrug yn darllen rhannau o'r ysgrythur.

Disgrifiwyd Ms Gowing gan y Tad Francis Doyle fel cyfaill da i lawer oedd wedi creu argraff barhaol.

"Roedd gan Catherine gariad mawr tuag at anifeiliaid Duw," meddai.

Y galar yn parhau

Bydd llyfr coffa sydd wedi ei osod yn y filfeddygfa hefyd yn cael ei gyflwyno i'w theulu.

Dywed Carole Davies eu bod nhw yn hapus iawn bod y gymuned yn cynnal y gwasanaeth a bod pobl yn dal i alaru amdani:

"Rydyn ni yn dal i deimlo yn wael bob diwrnod ac mae ein cwsmeriaid ni hefyd. Mi oedd hi wir yn ferch boblogaidd."

Roedd Miss Gowing wedi byw yn New Brighton ger Y Wyddgrug ers 18 mis cyn iddi ddiflannu.

Dywedodd y barnwr wrth Clive Sharp o Fethesda y byddai yn treulio o leiaf 37 mlynedd dan glo ar ôl ei threisio a'i lladd.

Cafwyd hyd i ddarnau o'i chorff mewn pwll bas yn ardal Sealand ar Lannau Dyfrdwy a gweddillion eraill yn Afon Dyfrdwy yn Higher Ferry ger Caer.

Ond er i Heddlu'r Gogledd gynnal yr ymchwiliad mwyaf erioed dydyn nhw ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i'w gweddillion i gyd.

Straeon perthnasol