Cymraes yw gobaith mawr Prydain

  • 18 Mai 2013
Bonnie Tyler
Image caption Mae Bonnie Tyler (enw iawn Gaynor Hopkins) yn wreiddiol o Abertawe

Bydd y Gymraes Bonnie Tyler yn cynrychioli Prydain yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision nos Sadwrn.

Mae gan Ms Tyler ddilyniant brwdfrydig ledled Ewrop yn dilyn ei gyrfa lwyddiannus fel cantores.

Mae hi a'i chefnogwyr yn gobeithio y bydd ei chan, 'Believe In Me', yn gwneud yn well nag ymgais Englebert Humperdinck y llynedd ddaeth yn olaf ond un.

Roedd yn rhaid iddi gael ei hebrwng gan yr heddlu yn Malmõ, Sweden, nos Fercher gan fod gymaint o bobl yn awyddus i'w gweld yn canu.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Sweden eleni, un o'r gwledydd lle mae recordiau'r gantores wedi gwerthu fwyaf - fe aeth ei halbwm Bitterblue yn aur yno, sy'n golygu ei fod wedi gwerthu dros gan mil o gopïau.

'Trydanol'

Yn siarad gyda Bethan Rhys Roberts o BBC Cymru yn yr wythnos cyn y gystadleuaeth, dywedodd Ms Tyler bod y gefnogaeth mae hi wedi ei dderbyn yn ôl ym Mhrydain wedi rhoi hyder iddi.

"Mae wedi bod yn drydanol - mae hi mor, mor brysur. Mae wedi bod yn waith caled ond mae wedi bod yn neis hefyd, chi'n gwybod - rwyf wedi mwynhau.

"Wrth gwrs fy mod i'n credu y gallaf ennill. Mae'r gan yn wych, wedi ei hysgrifennu gan Desmond Child sy'n gyfansoddwr o'r radd flaenaf. Ond mae caneuon da eraill: mae can Denmarc yn wych. Rwy'n hoffi Iwerddon, Rwsia a'r Almaen.

"Mae llawer o fy nghefnogwyr o Ewrop ac maen nhw'n gado eu bod am bleidleisio drosaf i, felly rwyf ond yn gobeithio y byddan nhw'n cofio stopio'r parti, codi'r ffon a phleidleisio dros Bonnie Tyler," meddai.

Dyw'r cwmni betio William Hill ddim yn ffyddiog ynglŷn â rhagolygon Ms Tyler.

Ddydd Gwener roeddent yn cynnig 50/1 am fuddugoliaeth i Brydain.

Dydi Prydain heb ennill ers i Katrina and the Waves guro yn 1997 gyda'r gan 'Love Shine a Light'.

Mae William Hill hefyd yn cynnig 8/1 ar Ms Tyler yn dod yn olaf.

Emmelie De Forest sy'n cynrychioli Denmarc, sef y ffefryn brynhawn dydd Gwener.

Bydd Cystadleuaeth yr Eurovision yn cael ei dangos ar BBC 1 nos Sadwrn 18 Mai, yn dechrau am 8:00pm.