Gweinidog yn cyhoeddi amserlen safonau iaith

  • 16 Mai 2013
Leighton Andrews
Mae Leighton Andrews yn gobeithio y bydd y safonau mewn grym cyn 2015

Mae'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu safonau iaith.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau fis Gorffennaf ac mae'r gweinidog yn gobeithio y bydd y safonau'n dod i rym erbyn Tachwedd 2014.

Wrth gyhoeddi'r amserlen, dywedodd Leighton Andrews: "Bydd y ddogfen ymgynghori ar gyfer y set gyntaf o safonau yn canolbwyntio ar alluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, awdurdodau'r parciau cenedlaethol, a gweinidogion Cymru."

Roedd wedi gwrthod y rhestr o safonau gafodd eu hargymell gan Gomisiynydd yr Iaith Meri Huws, gan ddweud eu bod yn aneglur.

Dywedodd hi ddydd Iau: "Rwy'n falch o weld bod amserlen y Gweinidog yn rhoi eglurder ynghylch pa bryd y gellir disgwyl gweld safonau'n cael eu creu. Bydd yr eglurder hwn o gymorth i sefydliadau wrth iddynt gynllunio i gydymffurfio â safonau."

Ffordd orau

Bydd yr ymgynghoriad newydd yn ystyried beth yw'r ffordd orau o sicrhau hawliau i siaradwyr Cymraeg gael defnyddio'r iaith wrth ddefnyddio gwahanol wasanaethau.

Yn ogystal bydd yr ymgynghoriad yn gofyn sut mae:

i. Sicrhau bod siaradwyr Cymraeg a'r sefydliadau sy'n eu gwasanaethu mor glir â phosibl ynghylch yr hyn y mae'r hawliau hynny'n ei olygu yn ymarferol;

ii. Lleihau'r baich gweinyddol ar sefydliadau y mae gofyn iddyn nhw ddarparu gwasanaethau Cymraeg fel y gallan nhw ganolbwyntio ar wella'r modd y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu;

iii. Sicrhau mwy o gysondeb rhwng sefydliadau o ran y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg.

'Diffyg gweledigaeth'

Dywedodd Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith: "Rwy'n siomedig fod y gweinidog wedi penderfynu cyfyngu safonau'r iaith Gymraeg i lywodraeth leol a chenedlaethol yn unig.

"Mae hyn yn dangos diffyg gweledigaeth.

"Diben y mesur hwn oedd sicrhau gwell darpariaeth gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg a gofalu bod y Gymraeg yn wir yn iaith gyfartal yma yng Nghymru."

I hyn ddigwydd, meddai, rhaid i'r mesurau hyn ymestyn y tu hwnt i gyrff statudol y llywodraeth.

"Does dim rheswm, yn enwedig o ystyried yr amser a gymerwyd, pam na ellir paratoi safonau i'r holl gyrff oedd yn dod dan hen Ddeddf yr Iaith Gymraeg yn ogystal ag ystyried meysydd newydd megis telegyfathrebu."

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Bedair blynedd ers y bleidlais olaf yn y Cynulliad, wedi pump ymgynghoriad a chwe blynedd ers dechrau'r broses ddeddfu, bydd posibiliad o gael gwasanaethau Cymraeg gwell. Dyna'r cyhoeddiad heddiw.

'Sectorau preifat'

"Erbyn hynny, heb amheuaeth, bydd pobl yn haeddu'r hyn sy'n wirioneddol bwysig, sef hawliau ar lawr gwlad i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

"Addawodd y llywodraeth yn gwbl glir yn ei strategaeth iaith y bydden nhw'n gosod safonau ar y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â'r sector gyhoeddus.

"Felly ble mae'r amserlen ar gyfer gosod safonau ar gwmniau preifat a chyrff eraill?"

'Dylanwad'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ddogfen ymgynghorol ar gyfer y set gyntaf o safonau yn canolbwyntio ar ddyletswyddau ar awdurdodau lleol, awdurdodau'r parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru.

"Rydym yn canolbwyntio arnyn nhw oherwydd eu dylanwad pellgyrhaeddol ar y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu.

"Bydd dyletswyddau ar y mudiadau hyn yn golygu effaith fawr ar y defnydd o'r iaith.

"Bydd mwy o setiau o safonau'n dilyn cyn gynted ag y bo modd."