Llai o bobl yn ddi-waith yng Nghymru

  • 15 Mai 2013
Canolfan Waith
Image caption Mae'r nifer o bobl sy'n "anweithredol yn economaidd" wedi lleihau o 991,000 i 985,000

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos nifer y di-waith yng Nghymru 6,000 yn llai.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd 121,000 yng Nghymru yn ddi-waith yn chwarter cyntaf 2013 tra oedd 127,000 yn chwarter olaf 2012.

Mae'r ffigyrau yn dangos bod cynnydd o 16,000 yn y nifer o bobl sy'n "economaidd weithgar".

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones bod y ffigyrau yn "dda iawn i Gymru".

"Maen nhw'n dangos bod arwyddion clir o dyfiant o fewn Cymru ond byddai'n annoeth awgrymu bod y gwaith caled drosodd.

"Rwy'n gwybod o siarad â busnesau eu bod nhw'n fwyfwy optimistaidd am y dyfodol ac rwy'n credu bod hyn yn cael ei ddangos yn y cynnydd o 16,000 sydd mewn gwaith."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod graddfeydd cyflogaeth, di-weithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru i gyd yn symud i'r cyfeiriad cywir, ac wedi gwneud yn well na chyfartaledd y Deyrnas Unedig (DU).

"Wedi dweud hynny, mae'r sefyllfa economaidd yng Nghymru'n parhau i fod yn her oherwydd gwendid yr economi fyd-eang a'r torriadau gwario sydd wedi cael eu gweithredu gan Lywodraeth y DU.

"Tra bod Llywodraeth y DU yn galu rheoli'r economi ar raddfa fawr, rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo pobl yn ol i fyd gwaith neu hyfforddiant."

'Dal yn uwch'

Dywedodd llefarydd economi Plaid Cymru Alun Ffred Jones: "Tra bo ffigyrau heddiw yn dangos cwymp yn nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru, mae'n bwysig cofio bod diweithdra yn dal yn uwch o lawer yng Nghymru na chyfartaledd y Deyrnas Gyfunol ar 8.2%.

"Mae 50,000 o bobl yn fwy yn ddi-waith yng Nghymru nag oedd cyn y dirwasgiad ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu o ddifrif i drin y broblem hon."

Mae Plaid Cymru, meddai, yn galw ar y llywodraeth i wneud mwy i geisio creu mwy o swyddi ac mae eu hawgrymiadau yn cynnwys buddsoddi mwy mewn prosiectau cyfalaf a "gwario yn ddoethach i annog creu swyddi".

'Arbennig o anodd'

Dywedodd Janet Jones, cadeirydd Uned Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach: "Mae'r mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd ar gyfer y sector busnes mawr yng Nghymru, gyda 430 o swyddi'n cael eu colli o ganlyniad i Rowecord yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a'r £1bn yn cael ei dynnu o werth gwaith Ewropeaidd Tata Steel.

"Os ydym am i ddiweithdra barhau i ostwng mae angen i ni sicrhau bod busnesau bach yn gallu creu swyddi i gymryd lle'r rhai a gollwyd mewn mannau eraill."

Mae ffigwr diweithdra y Deyrnas Unedig wedi codi 5,000 i 2.52 miliwn yn ystod yr un cyfnod.