'Ton o fwd'

  • 15 Mai 2013
Contractwyr
Contractwyr yn ceisio delio â'r sefyllfa

Mae contractwyr wedi eu galw ar ôl i dair troedfedd o fwd gael eu sgubo i lawr ffordd ar fryn fore Mercher ym Minera ger Wrecsam.

Roedd hyn yn sgil noson o law trwm.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cymunedol Minera John Edwards: "Dwi erioed wedi gweld unrhywbeth fel hyn o'r blaen.

'Yn llwyr'

"Mae'n rhaid fod yna dipyn o ddŵr oherwydd gorchuddiodd y llethr yn llwyr."

Roedd ambiwlans awyr, meddai, wedi mynd â dyn mewn oed i ysbyty gyda phoenau yn ei frest wedi i griw fethu ei gyrraedd ar y lôn.

Yn y cyfamser, mae naw rhybudd llifogydd mewn grym yng Nghymru.

Mae'r ardaloedd lle mae'r rhybudd "llifogydd yn bosib" mewn grym yn cynnwys Sir Gâr, Powys, Wrecsam a Sir Ddinbych.

Cafodd yr A5 yn ardal Froncysyllte ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod.