Disgyn o bont: Anafiadau difrifol

  • 12 Mai 2013

Mae menyw wedi cael anafiadau difrifol ar ôl iddi ddisgyn o bont yng nghanol dinas Abertawe.

Fe gafodd y ferch 21 oed ei gweld yn cwympo o'r bont sydd yn arwain o'r brif stryd i faes parcio Y Strand, Abertawe am 9:00pm nos Sadwrn.

Mae'r bont yn cael ei defnyddio gan gerddwyr.

Mae'r fenyw yn derbyn triniaeth am ei hanafiadau yn yr ysbyty.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un oedd yn yr ardal ac a welodd y digwyddiad neu a welodd unrhywbeth anghyffredin i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 a dyfynnu'r rhif 978 11/05/2013.