Damwain ffordd: Dyn wedi marw

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi i ddyn 69 oed farw mewn damwain ffordd yn ardal Rhondda Cynon Taf brynhawn Sadwrn.

Deallir i'r dyn gael ei daro gan fws yn Nhonysguboriau tua 2.15pm.

Fe gafodd y dyn anafiadau difrifol a bu farw.

Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan lygad dystion neu unrhyw un a welodd y cerddwr cyn y digwyddiad.

Fe ellir cysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 neu trwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.