Ymarferion morol yn creu twrw

  • 6 Mai 2013
HMS Montrose
Mae HMS Montrose yn ymarfer ym Mae Ceredigion

Mae trigolion ar hyd arfordir gorllewinol Gwynedd wedi bod yn clywed synau anarferol ddydd Llun, gyda nifer yn ceisio chwilio am eglurhad.

Dywedodd rhai bod y synau i'r clywed a'u teimlo yn gyson yn yr ardal drwy'r bore a dechrau'r prynhawn, gyda rhai'n eu disgrifio fel taranau, ac eraill yn dweud eu bod yn debyg i ddaeargrynfeydd.

Wedi peth dyfalu, fe ddaeth eglurhad gan Heddlu Gogledd Cymru.

Mae un o longau'r Llynges Frenhinol yn cynnal ymarferion ym Mae Ceredigion ger arfordir Tywyn.

Credir bod llong y Montrose yn rhan o ymarferion sy'n cynnwys tanio gynnau allan ar y môr.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y dylai pobl ffonio rhif arbennig os oes ganddyn nhw bryderon, sef 0800 0510880.