Dau ddyn wedi eu gadael yn anymwybodol ger ysbyty

  • 4 Mai 2013
Ysbyty Brenhinol Gwent
Cafodd y dynion eu gadael y tu allan i'r ysbyty tua 7:45am ddydd Sadwrn

Cafodd dau ddyn eu gadael yn anymwybodol y tu allan i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn, yn ôl yr heddlu.

Roedd y dynion wedi'u cludo i'r ysbyty mewn car BMW glas a chawson nhw eu gadael yno tua 7:45am.

Mae nifer o bobl wedi cael eu harestio ac yn helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliadau.

Yn y cyfamser, mae'r ddau ddyn yn parhau'n anymwybodol ond mewn cyflwr sefydlog yn yr uned gofal dwys.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu 01633 838111.