Taith i America yn wobr Eisteddfodol

Taith i America i un o enillwyr yr Eisteddfod
Taith i America i un o enillwyr yr Eisteddfod

Bydd enillydd y Rhuban Glas dan 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a'r Cyffiniau yn cael y cyfle i deithio i America.

Mae Sefydliad Cymru-Gogledd America yn rhoi grant o $5,000 i'r enillydd er mwyn ei helpu i deithio i Minneapolis yn 2014 i gymryd rhan yng Ngŵyl Cymru Gogledd America.

Mae'r sefydliad yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru a Gogledd America.

'Cyfle arbennig'

Dywedodd yr ysgrifennydd, Philip Davies, fod hwn yn gyfle arbennig.

"Mae cynnig grant i enillydd yn yr Eisteddfod yn ein galluogi i gryfhau'r ddolen rhwng Cymru a Gogledd America hyd yn oed ymhellach ac yn cynnig cyfle arbennig i berson ifanc berfformio ym Minneaepolis y flwyddyn nesaf."

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae hyn yn gyfle heb ei ail ac yn siwr o sicrhau y cawn gystadleuaeth o safon arobryn ar lwyfan y Pafiliwn eleni.

"Diolch i'r sefydliad am eu cefnogaeth a phob hwyl i bawb fydd yn cystadlu yn y gystadleuaeth."

Ysgoloriaeth

Mae'r gystadleuaeth Rhuban Glas ar gyfer rhai dan 25 oed yn adnabyddus fel Gwobr Goffa Osborne Roberts ac mae'r fedal a'r wobr o £150 yn cael eu cyflwyno eleni gan Gôr Rhuthun.

Hefyd mae'r enillydd yn derbyn Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Llundain sy'n werth £500 i gael hyfforddiant pellach fel unawdydd.

Eleni am y tro cyntaf bydd yr enillydd yn derbyn Ysgoloriaeth William Park-Jones sy'n werth £1,000.

Bydd grant $5,000 Sefydliad Cymru-Gogledd America yn ychwanegol at y gwobrau hyn.