Adnodd newydd i ddysgu yn y Gymraeg

  • 3 Mai 2013
Botwm y Byd
Mae'r cynllun Botwm y Byd yn cynnwys gwefan sy'n cynnig adnoddau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae adnodd newydd i helpu pobl sy'n astudio ieithoedd modern, gwleidyddiaeth ryngwladol a'r cyfryngau trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy'n cyhoeddi'r adnodd - Botwm y Byd - er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Rhyddid y Wasg.

Mae cynllun Botwm y Byd yn cynnwys gwefan bwrpasol ynghyd â sawl elfen arall at ddefnydd disgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr prifysgol, ac mae'n caniatáu i ddefnyddwyr wrando ar bigion eitemau newyddion ar draws y byd ac i drafod materion rhyngwladol.

Yn ogystal bydd blogiau ar ffasiwn, ffilmiau, cerddoriaeth a chwaraeon i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau iaith mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg drwy ymarferion rhyngweithiol.

Mae prifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd hefyd yn bartneriaid yn y cynllun.

'Cyffrous iawn'

Dywedodd Dr Ioan Matthews o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Prif nod y coleg yw cynyddu, datblygu ac ehangu cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru.

"Mae prosiect fel hwn gan sawl sefydliad sy'n cyfuno ieithoedd modern, cyfryngau a gwleidyddiaeth yn wreiddiol iawn ac yn syniad diddorol y mae'r Coleg yn awyddus iawn i'w gefnogi."

Dr Mererid Hopwood yw awdur ac arweinydd y cynllun.

"Mae wedi bod yn gyffrous iawn i weld y wefan yn datblygu a thyfu. Gobeithio nawr y bydd cyfle i ni glywed lleisiau o bedwar ban byd yn dweud eu stori ac y bydd hynny'n cynnig adnoddau gwerthfawr i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg."