Carwyn Jones yn annerch cynhadledd ynni

  • 1 Mai 2013
Fferm Wynt Cefn Croes, Creredigion
Bydd ffigyrau blaenllaw o'r diwydiant ynni yn siarad yn y gynhadledd

Mae Prif Weinidog Cymru yn annerch cynhadledd ynni ddydd Mercher, fydd yn trafod pynciau dadleuol fel caniatâd cynllunio a'r manteision i gymunedau lleol.

Dyma'r seithfed gwaith i RenewableUK Cymru gynnal digwyddiad o'r math yma ac maen nhw'n disgwyl i dros 200 o'r diwydiant ynni a'r sector ynni morol ymgynnull yng Nghaerdydd.

Bydd ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant yn siarad yn ystod y diwrnod.

Polisi ynni Cymru a'r seilwaith sydd yn bodoli fydd yn cael sylw yn ystod y sesiwn yn y bore.

Yn y prynhawn bydd araith gan yr Athro Jacqueline McGlade, Cyfarwyddwr Gweithredol Asiantaeth Amgylcheddol Ewrop.

Disgwylir iddi hi sôn am sut y gallai Cymru fanteisio fel gwlad trwy gael ynni gwynt.

Bydd y sesiwn brynhawn hefyd yn trafod y budd posib i gymunedau gan gynnwys creu gwaith yn lleol.

Ar ddiwedd y diwrnod bydd y newyddiadurwraig Mai Davies yn cadeirio panel trafod.

Yr Aelodau Cynulliad Alun Ffred Jones a William Powel fydd dau o'r aelodau ac fe fydd y strategwr gwleidyddol Gareth Wardell a'r Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol Cymru yn ymuno gyda nhw.

Fe fyddan nhw'n ateb cwestiynau o'r llawr ac yn trafod rhai o'r pynciau pwysig o fewn y maes.