Caerdydd 1-1 Bolton

  • 27 Ebrill 2013
Codi tlws Pencampwriaeth nPower
Codi tlws Pencampwriaeth nPower

Roedd cyfle ddydd Sadwrn i gefnogwyr pêl-droed Caerdydd fwynhau'r olygfa o weld eu tîm yn codi tlws Pencampwriaeth nPower.

Methodd Yr Adar Gleision, serch hynny, ag ennill y gêm yn erbyn Bolton, ar ôl mynd ar ei hôl hi o fewn deunaw munud.

Craig Noone ddaeth â'i dim yn gyfartal o gic rydd wedi 68 munud.

Mae'r ras ar gyfer yr ail safle yn parhau'n fyw wedi i Hull golli o ddwy i ddim yn Barnsley.

Hwn yw'r tro cyntaf i Gaerdydd ennill pencampwriaeth ar ôl ddod yn ail wrth gael eu dyrchafu i adran uchaf Lloegr ym 1921, 1952 a 1960.

Y perchennog Vincent Tan yn dathlu gyda'r rheolwr Malky Mackay
Y perchennog Vincent Tan yn dathlu gyda'r rheolwr Malky Mackay
TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CAERDYDD 45 27 86
2. Hull 45 10 78
3. Watford 45 28 77
4. Brighton 45 24 72
5. Crystal P 44 10 68
6. Bolton 45 8 67
Y siampên yn llifo
Y siampên yn llifo