Remploy: Dwy ran o dair ddim yn gweithio

Dau weithwr wrth ei gwaith Image copyright Publicity handout
Image caption Mae Remploy yn adolygu nifer o geisiadau masnachol i redeg y ddwy ffatri olaf yng Nghymru, sy'n cyflogi tua 140 o bobl.

Nid yw dros ddwy ran o dair o weithwyr anabl cafodd eu diswyddo o ffatrïoedd Remploy yng Nghymru yn gweithio.

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos nad yw 69% o'r 280 o staff anabl sydd wedi colli eu swyddi yn gweithio ar hyn o bryd.

Mae llywodraeth San Steffan yn amddiffyn y penderfyniad i roi'r gorau i dalu cymhorthdal i ffatrïoedd Remploy, gan ddadlau y bydd y gyllideb anabledd yn cael ei wario yn fwy effeithiol.

"Agwedd ddideimlad", yw barn llywodraeth Cymru o'r polisi maen nhw wedi ei wrthwynebu o'r cychwyn.

Sefydlwyd y ffatrïoedd 67 mlynedd yn ôl fel rhan o'r broses o greu'r wladwriaeth les.

Pwyslais ar gael mwy o bobl anabl i weithio gyda'r gweithlu cyffredinol yn hytrach na mewn "ffatrïoedd ar wahân" oedd wrth wraidd penderfyniad llywodraeth y DU.

280 o weithwyr

Mae saith o'r naw safle Remploy yng Nghymru - Aberdâr, Abertyleri, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam - wedi'u cau, gan adael 280 o weithwyr yn ddi-waith.

Mae BBC Cymru wedi dod o hyd i ffigurau swyddogol sy'n dangos nad yw 192 o'r rheiny (69%) yn gweithio ar hyn o bryd, tra bod 88 ohonynt (31%) wedi dod o hyd i waith arall.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud bod 113 o'r 192 sydd heb waith yn derbyn amrywiaeth o fudd-daliadau, wedi ymddeol neu benderfynu peidio â chysylltu â'r awdurdodau.

Mae Remploy yn dweud nad yw'r ffigurau yn adlewyrchu'r bobl hynny sydd wedi dod o hyd i waith ond heb ddechrau gweithio eto.

Mae Ian Lloyd, 51, yn rhannol ddall ac yn un o'r rhai sy'n dal i chwilio am waith.

Bu'n gweithio yn ffatri Croespenmaen am ei fywyd cyfan fel oedolyn cyn iddo gau o'r diwedd ym mis Hydref 2012.

"Nid oeddwn i'n gallu credu'r penderfyniad oherwydd ein bod wedi bod yn gweithio'n gyson hyd at y diwrnod pan wnaethon ni gau. Pythefnos cyn y diwrnod hwnnw ro'n ni dal yn cynhyrchu gwaith ar gyfer cwsmeriaid," meddai Mr Lloyd.

'Digalonni'

Mae ei geisiadau am swyddi yn ystod y 6 mis diwethaf wedi arwain at nifer o gyfweliadau, ond dim gwaith.

"Dros amser, mae hynny yn mynd i'ch digalonni fel person anabl," meddai.

"Dwi heb arfer â bod yn y tŷ bob dydd. Es i i'r gwaith bob dydd am 31 mlynedd.

"Oherwydd fy anabledd, rwy'n gobeithio na fydd pobl yn dweud 'na all e wneud y gwaith' ond yn hytrach yn dweud 'byddwn ni'n rhoi swyddi i'r bobl hyn'.

"Oherwydd, mae'n mynd i fod yn anodd i bobl anabl i gael swydd pan fod pobl heini dal i chwilio am waith."

Adolygiad

Adolygiad annibynnol gan brif weithredwr Hawliau Anabledd y DU, Liz Sayce, oedd yn sail i benderfyniad llywodraeth y DU.

Roedd Ms Sayce yn argymell y dylai cyllideb £320 miliwn y llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cyflogaeth i'r anabl gael ei chanolbwyntio ar gymorth i unigolion, yn hytrach nag i fusnesau ffatri fu'n gwneud colled.

"Mae ffatrïoedd Remploy wedi wynebu dyfodol ansicr iawn am gyfnod hir," meddai'r Gweinidog Anabledd, Esther McVey AS.

"O ystyried bod £70 miliwn yn cael eu colli yn y ffatrïoedd hynny bob blwyddyn, rydym wedi penderfynu amddiffyn y gyllideb ac i edrych ar ôl yr holl bobl anabl, yn ogystal â'r rhai a oedd yn gweithio yn ffatrïoedd Remploy," ychwanegodd.

Dywedodd Ms McVey bod llywodraeth y DU yn dal o'r farn mai dyma yw'r penderfyniad cywir.

"Nid yw unrhyw benderfyniad fel hyn yn un hawdd, ond dyma'r ffordd orau ymlaen oherwydd ein bod ni'n gwybod ein bod wedi ni'n mynd i gefnogi'r holl 400,000 o bobl anabl sydd yng Nghymru," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu cau'r ffatrïoedd Remploy o'r cychwyn cyntaf ac yn ystyried bod y penderfyniad yn un "creulon, dideimlad ac yn gwbl ddiangen."

'Anghytuno'n llwyr'

Dywedodd Huw Lewis AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: "Rwy'n anghytuno'n llwyr gyda llywodraeth y DU os ydyn nhw'n credu mai'r ffordd galed a dideimlad yma yw'r ffordd gywir o fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'r gweithlu anabl.

"Rwyf wedi sefyll fy hun yn y ffatri Remploy ym Merthyr ac wedi gweld dynion a menywod yn gollwng dagrau trwy ofn a phryder am eu dyfodol.

Mae cais llywodraeth Cymru i ddatganoli Remploy wedi cael ei wrthod gan lywodraeth glymblaid y DU.

Ar hyn o bryd mae Remploy yn adolygu nifer o geisiadau masnachol i redeg y ddwy ffatri olaf yng Nghymru, sy'n cyflogi tua 140 o bobl.

Mae'r safleoedd ym Maglan, Castell-nedd, a Phorth, Rhondda, yn cael eu hystyried i fod â'r potensial i allu goroesi'n fasnachol, er eu bod nhw yn gwneud colledion ar hyn o bryd.

Mae disgwyl y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud cyn bo hir.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.