Masterchef: Larkin Cen, Dale Williams yn y rownd derfynol

Dale Williams a Larkin Cen Image copyright MasterChef
Image caption Mae Dale Williams (chwith) a Larkin Cen yn y rownd derfynol

Mae dau gogydd amatur o Gaerdydd wedi cyrraedd y tri olaf yng nghystadleuaeth MasterChef ar BBC One.

Cafodd y cyfreithiwr Larkin Cen, 28 oed, ei ddewis er gwaethaf damwain yn y gegin pan gwympodd souffle i'r llawr.

Fe wnaeth yr ymgynghorydd recriwtio Dale Williams, hefyd yn 28 oed, argraff ar grŵp o feirniaid bwyd a samplodd ei dri chwrs.

Natalie Coleman o Lundain yw'r drydydd gystadleuydd yn y rownd derfynol fydd yn cael ei dangos o ddydd Mawrth i nos Iau.

Magwyd Mr Cen uwchben siop gludfwyd Tsieineaidd ei rieni yn Nhrelái a bu'n ddisgybl yn Ysgol y Gadeirlan Llandaf, tra aeth Mr Williams i Ysgol Teilo Sant o'i gartref yn Nhredelerch.

Bydd rownd derfynol MasterChef i'w gweld o ddydd Mawrth Ebrill 30 i Ddydd Iau Mai 2 am 9pm ar BBC One.

Hefyd ar y BBC