'Rhaid ennill brwydr y syniadau'

David Cameron
Does dim bwriad gan ei lywodraeth i wyro oddi ar y llwybr o doriadau - a hynny er lles pobl meddai.

Galwodd y prif weinidog ar Geidwadwyr Cymru i fynd ati i berswadio'r cyhoedd ynghylch eu polisïau ar yr economi, y wladwriaeth les a'r byd busnes.

David Cameron oedd yn agor cynhadledd y Ceidwadwyr yn Stadiwm y Liberty yn Abertawe.

Dywedodd bod Cymru mewn perygl o fod ar ei hôl hi, am fod y llywodraeth Lafur yn y Cynulliad yn ein dal ni nôl.

Yn y "ras fyd-eang", mae cyfle gan Brydain i fod yn llwyddiant neu beidio meddai.

"Rydych chi'n deall hynny, rydw i'n deall hynny,

"Yr unig bobl sydd ddim yn deall hynny yw Llafur ym Mae Caerdydd.

"Tra bod gweddill y byd yn cyflymu, maen nhw fel pe bai am lusgo Cymru i'r llawr.

"Maen nhw wedi creu system addysg sy'n dal pobl ifanc nôl, system gynllunio sy'n dal adeiladu nôl a rheoleiddio sy'n dal busnesau nôl."

Sioe bypedau

Cymharodd Lafur â sioe bypedau 'The Muppet Show', gan ddweud mai'r hyn mae'r Ceidwadwyr yn ei gynnig yw'r 'A-Team'.

"Tra'u bod nhw'n gwneud traed moch o bethau, rydym ni'n eu datrys nhw."

Mewn araith yn nodi dechrau'r ymgyrch at etholiad cyffredinol 2015, dywedodd wrth y ffyddloniaid bod rhaid iddyn nhw ennill y "frwydr o syniadau" a sôn am eu llwyddiannau mewn llywodraeth.

Dywedodd na ellid ymddiried yn y blaid Lafur i redeg yr economi, gan hawlio nad yw Llafur dan reolaeth Ed Miliband ac Ed Balls wedi dysgu gwersi'r gorffennol.

Does dim bwriad gan ei lywodraeth i wyro oddi ar y llwybr o doriadau - a hynny er lles pobl meddai.

Gwladwriaeth les

"Dyw rhoi siec i bobl ddim yn eu helpu nhw, rhoi cyfle iddyn nhw sy'n gwneud hynny," mynnodd, gan ddweud nad oedd yr hen wladwriaeth les yn datrys problemau tlodi.

Cynllun y glymblaid sy'n gwneud hynny meddai, yn taclo'r hyn sy'n achosi tlodi; "teuluoedd yn chwalu, diffyg gwaith, bod yn gaeth i gyffuriau, alcoholiaeth, dyled".

Rhestrodd y ffyrdd mae'r Ceidwadwyr "ar ochr pobl sy'n gweithio'n galed" - yn eu mysg dorri treth incwm i fwy na miliwn o bobl, gan sicrhau nad yw 130,000 yn talu treth o gwbl; cyflwyno band eang cyflym iawn, trydaneiddio'r rheilffyrdd, "y cynllun mwyaf o'i fath ers 150 mlynedd" ac ymrwymo i wella'r M4 - rhywbeth nad yw Llafur ym Mae Caerdydd wedi gwneud, meddai.