'Gwell argraff gyntaf' o faes awyr

Maes awyr Caerdydd
Cytunwyd ar y gwaith hwn cyn i Lywodraeth Cymru brynu'r maes awyr fis diwethaf am £52m.

Bydd £500,000 yn cael ei fuddsoddi ym maes awyr Caerdydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn "gwella profiadau ymwelwyr".

Bwriad y cynllun yw trawsnewid llwybrau cerdded i mewn i'r maes awyr ac ardaloedd cyhoeddus, gan arddangos darnau celf a gosodiadau amlgyfrwng i "ddathlu a hybu diwylliant, treftadaeth, tirlun, cynhyrchion a busnesau Cymru".

Cytunwyd ar y gwaith hwn cyn i Lywodraeth Cymru brynu'r maes awyr fis diwethaf am £52m.

Bydd y darnau celf a'r gosodiadau yn cael eu hadnewyddu a'u hamrywio o bryd i'w gilydd yn ystod y prosiect tair blynedd.

Tasglu

Mae'r prosiect yn un o argymhellion Tasglu Maes Awyr Caerdydd, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones er mwyn ystyried dulliau o sicrhau bod y maes awyr yn fwy cystadleuol.

Yn gynharach y mis hwn, datgelwyd bod nifer y teithwyr o Faes Awyr Caerdydd yn llai na 1m y llynedd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: "Mae argraffiadau cyntaf yn hollbwysig. Mae Maes Awyr Caerdydd yn borth pwysig i mewn i Gymru ar gyfer teithwyr awyr a bydd y prosiect newydd hwn yn hybu dull cwbl Gymreig o drafod busnes, diwylliant, y celfyddydau, twristiaeth a digwyddiadau.

"Rydym yn awyddus i sicrhau bod teithwyr busnes a theithwyr hamdden yn profi'r agweddau gorau ar yr hyn y gall Cymru ei gynnig, gan ddechrau eu hymweliad ar nodyn uchel.

"Er nad yw'r prosiect hwn ond yn rhan fach o'r gwaith ehangach sy'n mynd rhagddo i wella cyfleusterau a gwasanaethau Maes Awyr Caerdydd, dylai sicrhau profiad cymaint yn well i'n hymwelwyr."

'Ennyn balchder'

Yr asiantaeth Golley Slater, wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, sydd wedi derbyn cyfrifoldeb am gyflawni'r prosiect a bydd yn mynd ati ar y cyd â Chanolfan y Chapter i ganfod artistiaid lleol o Gymru i weithio ar y darnau.

Dywedodd Jon Horne, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd: "Rwy'n falch iawn o weld y prosiect hwn ar waith gan fod y croeso a gynigiwn i'n hymwelwyr yn fater mor bwysig.

"Mae croesawu teithwyr Cymreig yn ôl i Gymru yr un mor bwysig ac rydym yn awyddus i ennyn balchder ynddynt cyn gynted ag y byddant yn glanio yn eu maes awyr cenedlaethol."