Ffatri Remploy: 'Diwedd cyfnod'

  • 25 Ebrill 2013
Dau weithwr wrth ei gwaith
Mae Remploy yn cyflogi gweithwyr anabl mewn ffatrioedd ar draws y DU

Mae'n ''ddiwedd cyfnod" i ffatri Remploy ym Mhen-y-bont sydd yn cau ei drysau am y tro olaf.

Dyna eiriau'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gymunedau a threchu tlodi, Huw Lewis.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y llynedd y byddai mwyafrif o'r ffatrïoedd yng Nghymru yn cau.

Mae Remploy yn cynnig gwaith i bobl gydag anableddau ac roedd y ffatri ym Mhen-y-bont yn cyflogi 46 o weithwyr.

Roedd Llywodraeth San Steffan yn dadlau y byddai'r gyllideb o £320 miliwn ar gyfer cyflogi pobl anabl yn medru cael ei wario'n well.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi bod yn hapus gyda'r penderfyniad i gau'r ffatrïoedd.

Ym mis Gorffennaf 2012 fe wnaethon nhw gyhoeddi y byddai arian yn cael eu rhoi i gyflogwyr fyddai yn rhoi swyddi i weithwyr Remploy.

Dywed Llywodraeth Cymru fod 40 o'r bobl sydd yn gweithio ym Mhen-y-bont wedi ffeindio swyddi eraill neu wedi dechrau hyfforddiant newydd.

Dywedodd y gweinidog Huw Lewis: "Mae hwn yn fis trist i Ben-y-bont ar Ogwr ac yn ddiwedd cyfnod i'r gweithwyr sydd wedi rhoi cymaint i'r ffatri hon.

Roedd Remploy wedi chwarae rôl fawr yn y gymuned ehangach ac wedi cynnig cyflogaeth werthfawr i nifer."