Ennill ar bwyntiau

  • 21 Ebrill 2013
Nathan Cleverly (ar y dde) Image copyright Arall
Image caption Roedd llwyddiant Cleverly yn golygu cyfres o 26 o ornestau heb golli.

Mae Nathan Cleverly wedi ennill ar bwyntiau yn erbyn Robin Krasniqi wrth i'r ornest bara am 12 rownd.

Hwn i'r pumed tro i'r Cymro amddiffyn ei goron WBO is-drwm y byd yn llwyddiannus.

Roedd ei lwyddiant yn Wembley nos Sadwrn yn golygu cyfres o 26 o ornestau heb golli.

Dechreuodd y Cymro 26 oed yn hyderus ond enillodd ei wrthwynebydd rywfaint o dir.

Yng nghanol yr ornest cafodd Cleverly ei ddal sawl gwaith ond ni lwyddodd Krasniqi i achosi niwed.

'Yn synnu'

Dywedodd dau taw'r sgôr oedd 120-108 i Cleverly a 119-109 oedd penderfyniad y llall.

"Wy'n synnu ei fod e wedi para am 12 rownd," meddai Cleverly.

"Wnes i roi lo's iddo fe gydag ergyd â'r llaw dde ac o'n i'n gobeithio y bydde hyn yn ddigon.

"Ond whare teg o'dd digon o ysbryd 'da fe."

Roedd Krasniqi wedi ennill 38 o ornestau'n olynol cyn herio'r Cymro.

Straeon perthnasol