Tân Prestatyn: 'Bygythiad tân arall' gan Melanie Smith

  • 11 Ebrill 2013
Lee-Anna Shiers, 20, ei mab Charlie Timbrell, nith Skye, dwy oed a'i nai Bailey Allen, pedair oed
Bu farw Lee-Anna Shiers, ei mab Charlie Timbrell, ei nith Skye Allen a'i nai Bailey Allen yn ogystal â phartner Ms Shiers Liam Timbrell

Roedd menyw sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio pum aelod o'r un teulu ar ôl dechrau tân wedi bygwth llosgi cartref menyw arall, clywodd y llys ddydd Iau.

Mae Melanie Jane Smith, 42 oed, wedi gwadu llofruddio dau oedolyn a thri phlentyn ifanc yn y tân yn fflat uwchben ei fflat hi ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, ym mis Hydref y llynedd.

Dywedodd y tyst Samantha Schofield wrth y llys ei bod wedi cael ei rhybuddio fod Ms Smith wedi bygwth rhoi ei chartref ar dân.

Mae'r erlyniad yn honni bod y diffynnydd wedi dechrau'r tân yn fwriadol yn sgil ffrae ynghylch cadair wthio.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20 oed, ei nai Bailey, pedair oed, ei nith Skye, dwy oed, yn y fflat oherwydd tân ar Hydref 19.

Cafodd ei mab 15 mis oed, Charlie, a'i phartner Liam Timbrell, 23 oed, eu hachub ond bu farw'r ddau yn yr ysbyty.

Dywedodd Miss Schofield wrth y llys fod y diffynydd yn credu ei bod hi yn cael perthynas rhywiol gyda phartner Ms Smith, Steve Clarkson, ond nad oedd hynny'n wir.

Ychwanegodd Miss Schofield, sy'n fam i ddau fachgen: "Roedd pobl gan gynnwys fy chwaer yn dweud wrthyf fod Mel yn cynllunio i roi fy nhŷ ar dân.

"Ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'n medru gwneud hynny."

Mae'r achos yn parhau.