Thatcher: Y teyrngedau

  • 10 Ebrill 2013

Am 2:30pm y Prif Weinidog David Cameron oedd y cynta' i roi teyrnged i'r Farwnes Thatcher.

Diolchodd i aelodau'r gwrthbleidiau oedd wedi dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.

"Mae sawl aelod ymhob cwr o'r Tŷ oedd yn anghytuno gyda gwleidyddiaeth Margaret Thatcher. Mae'n glod mawr iddyn nhw eu bod yma heddiw oherwydd ysbryd cydymdeimlo."

Chwerthin

Roedd ei araith yn ysgafn ar adegau wrth iddo gyfeirio at nifer o straeon amdani arweiniodd at chwerthin gan yr aelodau.

"Rwy'n cofio gweld ymchwilydd ifanc yn rhedeg drwy'r adeilad yn ystod fy nyddiau cynnar a chlywed AS yn dweud wrtho am arafu gan ddweud na chafodd Rhufain ei hadeiladu mewn diwrnod.

"Ateb yr ymchwilydd ifanc oedd 'Na, ond nid Margaret Thatcher oedd y fforman ar y job yna'."

Ond gorffennodd ei araith trwy ddyfynnu Winston Churchill oedd wedi dweud mai ychydig o wleidyddion oedd yn gallu creu'r hinsawdd economaidd.

Roedd y Farwnes Thatcher yn un ohonyn nhw, meddai.

Ed Miliband

Pwysleisiodd Ed Miliband, aweinydd y Blaid Lafur, ba mor bwysig oedd barn yr hen ardaloedd glofaol, pobl hoyw, lesbiaid ac eraill amdani, a hefyd bod ei barn am Nelson Mandela wedi dangos diffyg crebwyll.

Ond dywedodd hefyd ei bod yn ffigwr unigryw ac aruchel. "Hi ddifiniodd wleidyddiaeth cenhedlaeth gyfan," meddai.

John Redwood

Araith fer oedd un cyn Ysgrifennydd Cymru ond dechreuodd trwy ddweud: "Hi oedd y bos gorau gefais i erioed.

"Fe fydd pobl yn cofio'r fenyw gref gyda'i dadleuon grymus ond yr hyn yr oedden ni'n ei gweld oedd yr oriau hir yr oedd yn gweithio am ei bod mor awyddus i wneud pethau'n iawn."

Nick Clegg

Dechreuodd y dirprwy brif weinidog drwy fynegi ei gydymdeimlad gyda theulu Mrs Thatcher.

"Fel pawb sydd ddim yn aelod o'r Blaid Geidwadol," meddai, "roedd rhaid i mi ystyried yn ddwys beth i'w ddweud.

"Rwy'n cynrychioli etholaeth yn Sheffield ac mae llawer yno yn dal i deimlo dicter am ei chyfnod fel prif weinidog.

"Ond mae'n amhosib gwadu ei hôl ar y byd. Hi luniodd y map gwleidyddol yr ydym yn parhau i lywio ffordd drwyddo heddiw.

"Roeddech chi wastad yn gwybod ei bod yn credu'r hyn yr oedd yn ei ddweud."

Malcolm Rifkind

Fel un o gyn-weinidogion llywodraeth Mrs Thatcher, roedd Mr Rifkind yn ei adnabod yn dda ac fe gododd yr hwyl yn Nhŷ'r Cyffredin gyda sawl stori amdani.

"Roedd Margaret Thatcher yn berson oedd ddim yn poeni beth oedd barn eraill amdani.

"Bwriad yr enw 'Y Fenyw Haearn' oedd ei sarhau ond roedd yn falch o'r enw. Doedd hi ddim yn erbyn nawdd neb a byth yn ildio chwaith."

Angus Robertson

Dywedodd Mr Robertson o'r SNP ei bod hi'n "un o wleidyddion mwyaf aruchel y cyfnod diweddar."

"Ond fe fyddai'n gamgymeriad i beidio â chofnodi yr anghytundeb gyda'i pholisïau gafodd effaith fawr ar yr Alban a Chymru.

"Ni fydd yn cael maddeuant am gyflwyno treth y pen yn Yr Alban ond fe arweiniodd hynny at ddatganoli yno ac yng Nghymru."

Norman Tebbitt

Roedd teyrngedau yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd, yn eu plith un o'r gweinidogion gafodd ei anafu'n ddifrifol gan fom yr IRA yn Brighton.

"Doedd hi ddim y math o wleidydd oedd yn eistedd wrth i bethau newid o'i chwmpas.

"Roedd yn un o ddau brif weinidog - gyda Clement Attlee - a newidiodd y tirlun gwleidyddol ym Mhrydain.

"Pan ddaeth i rym yn 1979, roedd wedi gweld yr undebau yn dymchwel llywodraeth Edward Heath a dymchwel llywodraeth Jim Callaghan.

"Roedd meistri'r undebau yn credu y bydden nhw'n gallu dymchwel llywodraeth Margaret Thatcher.

"Ond sut gyflwr fyddai ar ein democratiaeth pe baen nhw wedi llwyddo?"

Geraint Davies

Dywedodd AS Gorllewin Abertawe, Geraint Davies: "Rwy'n teimlo y dylai hi gael ei farnu ar ei thelerau ei hun, yn ôl a oedd hi wedi darparu cytgord lle'r oedd anghytgord ... rwyf yn sicr yn teimlo ei bod wedi methu ar y cyfrif hynny yn ne Cymru."

Aeth ymlaen i ddisgrifio'r "anobaith" mewn cymunedau glofaol o ganlyniad i Thatcheriaeth.

Paul Flynn

Dywedodd AS Llafur Paul Flynn fod Margaret Thatcher yn "un o'r ddau wleidydd gorau y ganrif ddiwethaf" ochr yn ochr â Clement Attlee.

Er ei fod yn cydnabod galluoedd y cyn-brif weinidog fel gwleidydd ac yn ei chanmol hi am beidio â gweithredu ar "bwysau, rhagfarn a chanfyddiad" fel "y mae'r rhan fwyaf o wleidyddion yn ei wneud", beirniadodd hi am "beidio gwybod pryd i roi'r gorau iddi".

Disgrifiodd ef dranc y diwydiant dur yn ei etholaeth yn dilyn ei phenderfyniadau gan ddweud fod yr ardal yn awr yn "gysgod gwan" o'r hyn a arferai fod.

Pwysleisiodd yr effaith ar y gweithwyr - "fe ddygwyd ​​eu hurddas".