Edrych yn ôl ar fywyd Syr Wyn

  • 14 Rhagfyr 2013
Yr Arglwydd Roberts o Gonwy
Image caption Bu farw'r Arglwydd Roberts o Gonwy nos Wener yn 83 oed

Bu farw yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn 83 oed.

Bu Wyn Roberts yn Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghonwy rhwng 1970 a 1997, a bu'n weinidog yn y Swyddfa Gymreig am 15 mlynedd.

Cyn ei yrfa fel gwleidydd, roedd yn cael ei ystyried gan lawer yn arloeswr ym maes teledu yn yr iaith Gymraeg yn dilyn cyfnod fel newyddiadurwr.

Cefndir

Cafodd Ieuan Wyn Pritchard Roberts ei eni yn Sir Fôn yn 1930 yn fab i weinidog. Ar ôl ennill ysgoloriaeth i fynd i astudio yn Harrow gwnaeth wasanaeth milwrol, gan weithio yn Awstria ac fel swyddog cudd-wybodaeth.

Aeth i Rydychen i astudio hanes, cyn hyfforddi i fod yn newyddiadurwr gyda'r Liverpool Daily Post and Echo.

Yn 1954 fe'i cyflogwyd gan y BBC yng Nghymru ac yn 1958 roedd yn un o sefydlwyr sianel Television Wales and the West (TWW) gan ddod wedyn yn rheolwr Cymru.

Gyrfa wleidyddol

Enillodd sedd ymylol Conwy o Lafur yn 1970 a dal gafael ynddi tan iddo ymddeol o Dŷ'r Cyffredin yn 1997.

Wedi i'r Ceidwadwyr ennill etholiad cyffredinol 1979, fe'i penodwyd yn weinidog yn y Swyddfa Gymreig ble roedd ei gyfrifoldebau yn cynnwys y Gymraeg.

Wedi i'r llywodraeth wneud tro pedol ynghylch sefydlu sianel deledu Gymraeg, cyhoeddodd Gwynfor Evans, llywydd Plaid Cymru y byddai'n ymprydio hyd at farwolaeth pe na bai'r Ceidwadwyr yn cadw at eu gair.

Yn y pen draw, gwnaeth y llywodraeth dro pedol arall a sefydlu S4C, ond y posibilrwydd o golli pleidlais yn Nhŷ'r Arglwyddi a drodd y fantol o blaid y cynllun, yn ôl hunangofiant yr Arglwydd Roberts, 'Right from the start' a gyhoeddwyd yn 2006.

Deddfau Addysg ac Iaith

Yn etholiad cyffredinol 1987, Wyn Roberts oedd yr unig un o weinidogion y Swyddfa Gymreig a gadwodd ei sedd seneddol, ond ar waetha' ei deyrngarwch i Mrs Thatcher, chafodd e ddim ei ddyrchafu i'r cabinet. Parhaodd fel gweinidog yn y Swyddfa Gymreig.

Yn ei hunangofiant, dywedodd yr Arglwydd Roberts iddo ddadlau gyda'r Prif Weinidog dros statws y Gymraeg fel pwnc ysgol o fewn Deddf Addysg 1988.

Dywedodd: "Cafodd yr iaith Gymraeg le statudol am y tro cyntaf yng nghwricwlwm yr ysgolion. Roedd rhai wedi eu siomi nad oedd yn cael ei wneud yn bwnc gorfodol ym mhob ysgol, ond roeddwn i'n gwybod ein bod yn wynebu tasg ddigon anodd i sicrhau bod addysg iaith ar gael i'r rheiny a oedd ei heisiau."

Parhaodd ar y fainc flaen o dan John Major, a chafodd ei urddo'n farchog yn 1990.

Llywiodd Ddeddf Iaith 1993 i'r llyfr statud. Dywedodd ei fod yn "falch iawn" o'r ddeddfwriaeth honno, a roddodd statws newydd i'r Gymraeg ac a sefydlodd Bwrdd yr Iaith.

Ymddiswyddodd fel gweinidog yn 1994, a wnaeth e ddim sefyll yn etholiad cyffredinol 1997.

Datganoli

Cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a bu'n llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn yr ail siambr tan 2007.

Roedd yn erbyn datganoli adeg refferendwm 1979, fel yr oedd yn 1997, ond cynghorodd ei blaid i beidio ag arwain yr ymgyrch 'Na'.

Yn 2008, gofynnodd David Cameron iddo ymgynghori ag aelodau'r Ceidwadwyr ar lawr gwlad ynghylch polisi'r blaid ar ddatganoli.

Casglodd y dylai llywodraeth Geidwadol gynnal adolygiad o'r modd y caiff Cymru ei llywodraethu - syniad a adlewyrchwyd i raddau gyda sefydlu Comisiwn Silk i ystyried setliad cyfansoddiadol Cymru.

Mae'r Arglwydd Roberts yn gadael gwraig, Enid, a dau fab, Huw a Geraint. Bu farw mab arall, Rhys, yn 2004.