Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ceffylau o Gymru yn flaenllaw

6 Ebrill 2013 Diweddarwyd 18:51 BST

Mi fydd y rheini benderfynodd gefnogi Auroras Encore am 66-1 yn ras fawr y Grand National yn dathlu heno wedi i'r ceffyl synnu pawb a chroesi gyntaf. Rhaid aros o leia' flwyddyn arall felly am enillydd o Gymru, er i Cappa Bleu, o stabal Evan Williams ym Mro Morgannwg ddod yn ail. Tra i Tea for Three sy'n cael ei hyfforddi gan Rebecca Curtis yn Sir Benfro orffen yn drydydd. Y manylion gan y sylwebydd Alun Tudur Jenkins