Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn ymweld â staff

Tony Hall
Dywedodd yr Arglwydd Hall fod 'na "greadigrwydd gwirioneddol" yn perthyn i waith BBC Cymru.

Bu Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, yn ymweld â staff y gorfforaeth yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Dyma ymweliad cyntaf yr Arglwydd Hall â Chymru ers dechrau'i swydd wythnos yn ôl.

Bu'n ateb cwestiynau staff yn swyddfa'r BBC yn Llandaf cyn ymweld â chanolfan ddrama'r BBC ym Mhorth Teigr, lle y cynhyrchir Pobol y Cwm a Doctor Who.

Dywedodd yr Arglwydd Hall fod 'na "greadigrwydd gwirioneddol" yn perthyn i waith BBC Cymru.

"Mae'n fy ysbrydoli i glywed yr hyn mae pobol yn awgrymu ac yn ceisio gwneud," dywedodd.

"Mae hyn yn lle eithriadol i ymweld â hi...dwi'n meddwl y dyle pawb yn y BBC a'r tu allan deimlo balchder yn yr hyn sy'n cael ei gyflawni."

Mae'r Arglwydd Hall yn cymryd lle George Entwistle, a ymddiswyddodd ym mis Tachwedd wedi bod wrth y llyw am 54 niwrnod yn unig.

Penderfynodd Mr Entwistle sefyll i'r neilltu ar ôl i raglen Newsnight gysylltu ar gam gyn-wleidydd blaenllaw gyda cham-drin rhywiol mewn cartrefi plant yn y saithdegau a'r wythdegau.

Bu Tim Davie, sy' bellach yn Brif Weithredwr BBC Worldwide, yn Gyfarwyddwr Cyffredinol dros dro.