Wrecsam 2-1 Mansfield

  • 4 Ebrill 2013
Chwaraewyr Wrecsam yn dathlu ennill Tlws yr FA
Chwaraewyr Wrecsam yn dathlu ennill Tlws yr FA ym mis Mawrth

Fe wnaeth Wrecsam faeddu Mansfield ar y Cae Ras, gyda breuddwyd y Dreigiau o ennill pencampwriaeth Uwchgynghrair Blue Square Bet yn parhau yn fyw.

Yr ymwelwyr - oedd ar rediad o 12 buddugoliaeth yn olynol a'r ffefrynnau i gipio'r un lle sy'n sicrhau dyrchafiad yn awtomatig - aeth ar y blaen trwy gôl Matthew Green wedi 53 munud.

Ond dyw tîm Andy Morrell ddim yn ildio'n hawdd, a daeth goliau gan Dean Keates (68 munud) a Danny Wright (78 munud).

Nid oedd Wright wedi chwarae ers i Wrecsam ennill Tlws FA Lloegr yn Wembley fis diwethaf oherwydd anaf i'w wddf.

Gyda phum gêm o'r tymor arferol nawr yn weddill, mae llygaid y Dreigiau yn dal ar ennill y bencampwriaeth.

Mae Mansfield nawr 7 pwynt ar y blaen i Wrecsam, a naw o flaen Casnewydd. Er mai Kidderminster sydd ar frig y tabl maen nhw wedi chwarae dwy gêm yn fwy nag eraill o'u cwmpas.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE BET
Chwaraewyd Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Kidderminster 43 34 84
2. Mansfield 41 33 83
3. WRECSAM 41 32 76
4. CASNEWYDD 40 22 74
5. Grimsby 41 27 72