Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Rhwyg 'yn ddyfnach nag erioed'

4 Ebrill 2013 Diweddarwyd 20:44 BST

Maen nhw wedi dadlau ers blynyddoedd, ac mae'r rhwyg rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau yn ddyfnach nag erioed. Daeth y pedwar ynghyd ddydd Iau a chyhuddo Prif Weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, o oruchwylio dirywiad y gamp islaw'r tîm cenedlaethol. Dydyn nhw ddim am gwrdd i drafod cytundebau canolog os nad oes bwrdd rygbi gyda chadeirydd annibynnol yn cael ei ail-sefydlu. Daw'r cyfan wrth i un o'n sêr amlycaf ni baratoi i groesi'r ffin.