Defaid: Dim arian i ddigolledu ffermwyr

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am gymorth ariannol i ffermwyr defaid i'w digolledu am yr anifeiliaid fu farw yn ystod yr eira trwm.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru, Alun Davies y bydd rheolau Ewropeaidd yn cael eu llacio dros dro er mwyn caniatau i ffermwyr gladdu anifeiliaid yn hytrach na thalu rhywun i ddod i gasglu'r cyrff.

Am saith niwrnod, fe fydd gan ffermwyr mewn rhai ardaloedd yr hawl i gladdu defaid, ŵyn a lloi ar eu tir eu hunain os yw'r amgylchiadau'n anffafriol, hynny yw os nad yw casglwyr yn gallu cyrraedd y fferm.

Ond mae rhai amaethwyr wedi dadlau bod angen iawndal hefyd.

Dywedodd John Owen, Cadeirydd Bwrdd Tir Llai Ffafriol NFU Cymru:

"Da ni'n gweld yn barod bod gwledydd eraill, megis Yr Alban ac Iwerddon, yn sbio'n ddifrifol ar ddigolledu'r ffermwyr yma.

"Mae'n rhaid cofio bod y diwydiant defaid yng Nghymru yn bwysig iawn i'r economi Gymreig a dwi'n mawr obeithio bydd y gweinidog yn ystyried hyn."

Dywedodd Mr Davies ei fod yn barod i drafod ffyrdd eraill o helpu ffermwyr ond na fyddai rhagor o arian ar gael.

'Pecyn teg'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd Alun Davies na fyddai'n deg rhoi mwy o arian i'r diwydiant amaeth tra bod nifer o ddiwydiannau eraill hefyd wedi diodde' yn sgil yr eira diweddar.

"Wrth gwrs mae ffermwyr wedi derbyn taliadau sengl dros y misoedd diwetha'. 'Da ni wedi talu mas £260 miliwn gan y trethdalwyr i ffermwyr ar draws Cymru," meddai Mr Davies.

"Dwi ddim yn credu bod hi'n deg i'r trethdalwyr dalu mwy ar hyn o bryd pan mae 'na fusnesau eraill tu fas i amaeth sydd hefyd wedi diodde' dros yr wythnos ddiwetha' ond, wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn cael unrhyw subsidy o gwbl.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n creu pecyn sy'n deg i ffermwyr, yn deg i drethdalwyr, ond hefyd gyda rhywfaint o gydbwysedd sy'n adlewyrchu'r sefyllfa yng Nghymru."

Wrth ymateb i'r ffaith bod ffermwyr yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi derbyn arian ychwanegol penodol, mynnodd Mr Davies bod hynny'n adlewyrchu'r ffaith fod y tywydd wedi bod yn waeth yn y gwledydd hynny.

"Mae'r sefyllfa fanno'n dra gwahanol - byddech chi wedi gweld hynny yn yr adroddiadau tywydd dros y penwythnos.

"Ry'n ni wedi edrych ar beth sydd wedi digwydd yng Nghymru a chreu pecyn ar gyfer anghenion Cymru."

'Dim synnwyr'

Mae'r rheolau ar gladdu anifeiliaid wedi eu llacio dros dro mewn saith sir sef Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed.

Mae rhai ffermwyr mewn ardaloedd eraill yn ei gweld yn annheg nad yw'r trefniant yn eu cynnwys nhw

Dywedodd Eluned Thomas, sy'n ffermio ar fynydd Pumlumon, Ceredigion - sydd 2468 troedfedd uwchlaw'r môr:

"Dyw e'n gwneud dim synnwyr nag yw...

"Maen nhw'n dweud bod chi'n gallu claddu yn Sir Faesyfed, wel ma' hwnnw llawer is na ni. Ni yw'r fferm ucha' yng Ngheredigion. Da ni'n ffinio â Sir Drefaldwyn yr holl ffordd i'r copa.

"Mae 'na dipyn go lew o ddefaid ac ŵyn wedi mynd - dy'n ni ddim yn siŵr yn union faint. Mae'n anodd mynd atyn nhw.

"Mae'n argyfwng - mae wedi bod yn sobor iawn yma'r 10 diwrnod diwetha'. Ry'n ni'n siomedig iawn, dyw e ddim yn ein helpu ni o gwbl."

'Colli mas'

Dywedodd Alun Davies ei bod wedi bod yn anodd penderfynu pa ardaloedd ddylai gael cymorth.

"Ro'n i'n gwybod pan o'n i'n gwneud y penderfyniad y byddai rhai ffermydd yn colli mas a dwi'n derbyn hynny - ond beth mae'n rhaid i ni ystyried yw bod rhai ffermydd wedi diodde' yn waeth nag eraill.

"Mae'r tywydd mewn rhai mannau o Gymru wedi bod yn arbennig o dda dros y penwythnos.

"Ry'n ni wedi edrych ar yr ardaloedd sydd wedi cael yr impact mwya' a 'da ni wedi gwneud penderfyniad ar sail hynny.

"Dwi'n derbyn bod rhai yn teimlo'u bod yn colli mas - ond dyna un broblem pan ry'ch chi'n delio â ffiniau'r siroedd, a dyna beth mae'n rhaid i ni wneud."

Ychwanegodd Mr Davies y byddai modd ailedrych ar y trefniant dros y dyddiau nesa' petai'r tywydd oer yn parhau a bod yr eira ddim yn dadmer.

"Os yw hynny'n wir mewn wythnos, ry'n ni'n gallu ystyried hynny bryd hynny," meddai.

"Mae gen i'r hawl i ymestyn y cyfnod saith niwrnod os oes eisiau ac os oes angen."

Bydd cynrychiolwyr NFU Cymru yn cwrdd â'r gweinidog yr wythnos hon i drafod y sefyllfa.

Bydd y cyfarfod ar fferm Robert Jenkins, Cilhaul, Trefeglwys, Llanidloes am 3pm ddydd Iau.