Llacio rheolau claddu da byw, medd gweinidog

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies, wedi cyhoeddi y bydd rheolau claddu da byw mewn mannau arbennig yn cael eu llacio am gyfnod o saith niwrnod.

Y drefn arferol o dan reolau Ewrop oedd bod ffermwyr yn trefnu bod rhywun yn dod i gasglu'r cyrff.

O hanner nos ymlaen bydd hawl gan ffermwyr i gladdu defaid, ŵyn a lloi ar eu tir eu hunain os yw'r amgylchiadau'n anffafriol, hynny yw os nad yw casglwyr yn gallu cyrraedd y fferm.

Bydd hyn yn dod i rym yn yr ardaloedd canlynol, Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed.

Bydd cynrychiolwyr NFU Cymru yn cwrdd â'r gweinidog yr wythnos hon.

Y nod yw trafod y sefyllfa ar ôl i gannoedd o anifeiliaid farw yn yr eira trwm.

Dywedodd llywydd yr undeb yng Nghymru Ed Bailey: "Bydd y cyfarfod yn gyfle i drafod yr angen am help brys i ffermwyr yn sgil y tywydd garw.

'Tymor hir'

Y ffermwr Gareth Wyn Jones
Dywedodd y ffermwr Gareth Wyn Jones fod y tywydd garw wedi bod yn 'drychineb' gyda chymaint o anifeiliaid wedi marw

"Hefyd bydd angen ystyried sut mae modd rheoli'r effeithiau tymor hir ar ffermio da byw ..."

Bydd y cyfarfod ar fferm Robert Jenkins, Cilhaul, Trefeglwys, Llanidloes am 3pm ddydd Iau.

Mae nifer o ffermwyr wedi dweud eu bod yn wynebu "trychineb" ar ôl y tywydd garw.

Dywedodd ffermwyr eu bod wedi treulio'r Pasg yn chwilio am eu hanifeiliaid mewn lluwchfeydd hyd at 15 troedfedd (4.57 metr) yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

'Trychineb'

Roedd Gareth Wyn Jones, sy'n ffermwr yn Nyffryn Conwy, wedi beirniadu Mr Davies am beidio â gweithredu dros benwythnos gŵyl y banc.

Dywedodd ei fod e, ynghyd â thri ffermwr arall yn ardal Llanfairfechan, yn credu eu bod wedi colli 300 o ddefaid.

Mae dros 25 o ferlod mynydd hefyd wedi marw.

"Mae'n drychineb. Dyw'r bobl 'dwi'n 'nabod o gwmpas ffordd 'ma ddim wedi bod yn cysgu, 'dwi wedi colli stôn mewn pwysau," meddai Mr Jones.

"Rydan ni wedi cael wythnos ofnadwy, pob un ohonon ni, roedd pawb o'r gymuned amaeth a hyd yn oed pobl leol wedi dod i'n helpu i chwilio am y defaid.

"Dyna 'dach chi'n ei wneud, torchi'ch llewys. Dydach chi ddim yn mynd ffwrdd am benwythnos, dim hyd yn oed y Pasg."