Amgueddfa Arberth ar y rhestr fer ar gyfer gwobr fawr

Amgueddfa Arberth
Mae Amgueddfa Arberth yn cystadlu yn erbyn amgueddfeydd lawer mwy

Mae amgueddfa, a ail-agorodd y llynedd wedi i wirfoddolwyr ddod o hyd i gartref newydd iddi, wedi ael ei chynnwys ar restr fer cystadleuaeth Amgueddfa'r Flwyddyn.

Bu'n rhaid i Amgueddfa Arberth yn Sir Benfro gau ei drysau yn 2003 gan i'r adeilad gael ei werthu.

Treuliodd gwirfoddolwyr wyth mlynedd yn codi arian er mwyn i'r amgueddfa fedru ail-agor yn ei chartref presennol.

Mae'r amgueddfa, sydd yn dathlu hanes y dref farchnad, yn un o ddeg fydd yn cystadlu am y wobr o £100,000, un o wobrau mwyaf y byd celfyddydol yn y DU.

Ymhlith yr amgueddfeydd eraill ar y rhestr fer mae'r Baltic Centre for Contemporary Art yn Gateshead a'r Kelvingrove Art Gallery and Museum yn Glasgow, a ail-agorodd yn 2006 ar ôl ailwampio a gostiodd £35 miliwn.

Dywedodd cyfarwyddwr yr Art Fund, Stephen Deuchar: "Mae ansawdd ac amrywiaeth amgueddfeydd ac orielau'r DU yn wirioneddol eithriadol a gwaith y wobr yw tynnu sylw at hynny.

"Rydym yn gobeithio, trwy daflu goleuni ar y 10 gyrhaeddodd y rownd derfynol, byddwn yn annog pobl i ymweld â hwy a'u dathlu."

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi'n fyw ar raglen BBC Radio 4, Front Row, fydd yn cael ei ddarlledu o'r V&A yn Llundain ar 4 Mehefin.

Yr enillydd yn 2012 oedd y Royal Albert Memorial Museum yng Nghaerwysg.