Dreigiau 20-28 Scarlets

Dreigiau
Roedd y Dreigiau wedi ofni y bydden nhw'n colli'n rhacs

Dreigiau 20-28 Scarlets

Roedd hon yn gêm gystadleuol iawn yn Stadiwm y Mileniwm a llai o fwlch rhwng y ddau dîm.

Croesodd George North a Jonathan Davies i'r Scarlets a chiciodd Owen Williams 13 o bwyntiau.

Jonathan Evans a Daniel Evans sgoriodd geisiadau i'r Dreigiau. Trosodd Tom Prydie ddwywaith a chicio dwy gic gosb.

Cyn y gêm yn Stadiwm y Mileniwm dywedodd hyforddwr y Scarlets, Simon Easterby: "Mae'n syniad gwych cynnal y gêm yn y stadiwm yn sgil llwyddiant Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

"Mae'n gyfle i fwy o gefnogwyr fod yn rhan o'r awyrgylch.

"Gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn."

Timau

Dreigiau: Tom Prydie; Will Harries, Pat Leach, Jack Dixon, Ross Wardle; Dan Evans, Jonathan Evans; Aaron Coundley, Hugh Gustafson, Dan Way, Andrew Coombs (capten), Rob Sidoli, Dan Lydiate, Toby Faletau, Nic Cudd.

Eilyddion: Sam Parry, Owen Evans, Nathan Buck, Jevon Groves, Ieuan Jones, Wayne Evans, Steffan Jones, Adam Hughes.

Scarlets: Gareth Owen; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Owen Williams, Aled Davies; Phil John, Matthew Rees, Samson Lee, George Earle, Johan Synman, Aaron Shingler, Rob McCusker (capten), Johnathan Edwards.

Eilyddion: Ken Owens, Rhodri Jones, Deacon Manu, Sione Timani, Josh Turnbull, Rhodri Williams, Aled Thomas, Gareth Maule.

Dyfarnwr: Neil Paterson (Undeb Rygbi'r Alban)

Gleision 16 Gweilch 23

Leigh Halfpenny sgoriodd bwyntiau'r Gleision i gyd. Roedd fel y banc.

Ddeng munud cyn y diwedd ildiodd y Gleision gic gosb - dwylo Paulo ar fai - ond methodd Dan Biggar gic gosb gymharol rwydd.

Yn y munudau ola cafodd y Gleision eu cosbi am olwyno'r sgrym. Llwyddodd Biggar y tro hwn.

Roedd yr hanner cynta'n ddifyr ond yr ail yn siomedig.

Fydd hyn ddim yn poeni'r Gweilch yn ormodol.

"Ry'n ni'n gorfod canolbwyntio ac ennill hon," meddai eu hyfforddwr olwyr Gruff Rhys cyn y gêm.

"Sdim lle i gamgymeriade."

Gleision v. Gweilch
Y Gleision ddim wedi trechu'r Gweilch ers y fuddugoliaeth o 27-25 Nos Galan 2010.

Ond roedd rhai o'r camgymeriadau, yn enwedig yn yr ail hanner, yn elfennol.

Dyw'r Gleision ddim wedi trechu'r Gweilch ers y fuddugoliaeth o 27-25 yn Stadiwm y Ddinas Nos Galan 2010.

Timau

Gleision: Leigh Halfpenny; Owen Williams, Gavin Evans (capten), Dafydd Hewitt, Harry Robinson; Rhys Patchell, Lloyd Williams; Sam Hobbs, Marc Breeze, Scott Andrews, Filo Paulo, Lou Reed, Michael Paterson, Luke Hamilton, Sam Warburton.

Eilyddion: Kristian Dacey, Thomas Davies, Taufa'ao Filise, Robin Copeland, Rory Watts-Jones, Lewis Jones, Ceri Sweeney, Gareth Davies.

Gweilch: Richard Fussell; Tom Habberfield, Jonathan Spratt, Ashley Beck, Tom Isaacs; Dan Biggar, Kahn Fotuali'i; Ryan Bevington, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones (capten), Ian Evans, James King, Jonathan Thomas Justin Tipuric.

Eilyddion: Scott Baldwin, Duncan Jones, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, Joe Bearman, Rhys Webb, Matthew Morgan, Ben John.

Dyfarnwr: Nigel Owens (Undeb Rygbi Cymru, 95ed gêm)