Caniatâd cynllunio ar gyfer ysgol newydd Ysgol Dyffryn Tywi

  • 29 Mawrth 2013
Mae cefngowyr yr ysgol wedi bod yn gwrthwynebu'r cau
Mae cefngowyr yr ysgol wedi bod yn gwrthwynebu'r symud

Fe fydd ysgol uwchradd newydd yn cael ei hadeiladu yn Sir Gaerfyrddin ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi.

Fe fydd yr ysgol newydd, Ysgol Dyffryn Tywi, yn Llandeilo.

Mae Ysgol Dyffryn Tywi yn rhan o gynlluniau Cyngor Sir Caerfyrddin i fuddsoddi £68 miliwn mewn ysgolion yn ardal Dinefwr.

Mae'r cynlluniau yn rhai dadleuol a nifer wedi eu gwrthwynebu.

Fe fydd Ysgol Pantycelyn yn Llanymddyfri yn uno gydag Ysgol Tregib i greu'r ysgol newydd a fydd ar Fferm Lovelodge yn Ffairfaich.

Roedd cefnogwyr Ysgol Pantycelyn wedi ceisio atal y newid gan ddadlau y byddai'r ysgol newydd 15 milltir i ffwrdd.

Adolygiad barnwrol

Eu dadl oedd y dylai'r ysgol newydd fod wedi ei chodi rhwng y ddau safle presennol.

Y llynedd fe gollodd ymgyrchwyr Pantycelyn gais cyfreithiol am adolygiad barnwrol.

Y bwriad yw cau Ysgol Pantycelyn a sefydlu ysgol newydd yn Ffairfach

Gwrthododd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews y gwrthwynebiadau i'r newid hefyd.

Dydd Iau fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin gymeradwyo'r ysgol newydd a fydd â lle ar gyfer 1,200 o ddisgyblion.

"Dwi'n falch iawn bod 'na ganiatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer yr ysgol newydd," meddai arweinydd y cyngor, Kevin Madge.

"Mae'n fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yn ardal Dinefwr a bydd o fudd i nifer o bobl ifanc yn yr ardal.

"Mae'n gyfle i wella adnodau addysgol a chyfleodd i bobl ifanc lleol."

Yn rhan o'r ysgol newydd fe fydd 'na uned awtistiaeth arbenigol ar gyfer 30 o ddisgyblion.