Llafur yn 'gwneud gwahaniaeth' yng Nghymru

Ed Miliband
Parhaodd Ed Miliband gydag ymosodiad ar y Canghellor George Osborne

Mae Llywodraeth Cymru yn brawf o'r gwahaniaeth y gallai Llafur ei gyflawni mewn llywodraeth, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband.

Roedd yn siarad fore Sul yn ystod sesiwn holi ac ateb yng nghynhadledd Gymreig y Blaid Lafur yn Llandudno.

Daw ei ymweliad yn dilyn ei araith yn Birmingham ddydd Sadwrn ble dywedodd bod y Deyrnas Unedig yn wynebu llithro mewn i "ddegawd coll" oherwydd methiant Llywodraeth San Steffan i ddatrys problemau economaidd y wlad.

Parhaodd gyda'r ymosodiad ar Lywodraeth San Steffan fore Sul drwy gyfeirio at y Canghellor fel "Capten y Titanic."

Dywedodd bod pobl yng Nghymru yn wynebu'r "storm berffaith" oherwydd polisïau'r Llywodraeth yn San Steffan.

Heddlu

Yn ôl Ed Milliband mae gwaith Llywodraeth Cymru o fudd i Llafur yn San Steffan wrth geisio disodli'r glymblaid. Polisïau Carwyn Jones a'i lywodraeth yw'r unig beth sy'n amddiffyn pobl, meddai, cyn ychwanegu bod angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan hefyd.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd yn cymryd rhan yn y sesiwn holi ac ateb.

Un o'r cwestiynau a holwyd oedd ynglŷn â datganoli cyfrifoldeb dros yr heddlu.

Fis diwethaf amlinellodd Mr Jones dystiolaeth ei lywodraeth i'r comisiwn sy'n ystyried adolygu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd datganiad Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiwn Silk yn cynnwys galwad i ddatganoli pwerau dros blismona. Ond mae'n debyg bod rhai Aelodau Seneddol Cymreig yn anhapus ac yn dweud nad oedd hynny wedi ei drafod gyda nhw o flaen llaw.

Pan holwyd Ed Milliband yn y sesiwn fore Sul dywedodd bod "Carwyn wedi gwneud ei farn yn glir ar hynny." Ychwanegodd "Rwy'n agored i'r holl syniadau yma, a byddwn yn edrych yn ofalus ar argymhellion y Comisiwn Silk flwyddyn nesaf."

Mewn cyfweliad ar ôl y sesiwn dywedodd Mr Milliband bod Carwyn Jones yn gwneud y peth iawn yn ei farn e i godi'r cwestiwn ac i ddiogelu'r setliad rhwng Cymru a San Steffan at y dyfodol.

Wrth ymateb i'r un cwestiwn ar y llwyfan, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn credu bod datganoli plismona yn "fwy addas". Byddai'r blaid yn penderfynu ei safbwynt ar y mater, meddai, ar ôl i Comisiwn Silk gyhoeddi eu hargymhellion flwyddyn nesaf.

Maes awyr

Un o'r cwestiynau eraill a holwyd oedd ar ddyfodol Maes Awyr Caerdydd. Dywedodd Carwyn Jones bod "y llywodraeth yn agos iawn iawn at brynu'r maes awyr."

Mynnodd bod cael maes awyr rhyngwladol yn "eiconig i Gymru", ble bynnag y lleoliad, gan ddweud ei fod yn rhoi "lefel o kudos" i'r wlad.

Holwyd Ed Milliband hefyd am fewnfudo. Dywedodd ei bod yn bwysig i'r Blaid Lafur daclo'r mater, a chael trafodaeth agored. Pwysleisiodd bod amrywiaeth mewn cymdeithas yn bwysig ond bod angen ei reoli yn fwy effeithiol.