Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio yng Nghaerdydd

  • 18 Mawrth 2013

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 25 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl digwyddiad yn y brifddinas.

Dywedodd yr heddlu bod digwyddiad wedi bod rhwng y dyn sydd wedi cael ei arestio a dyn 23 oed tu allan i Westy Lynx ar Ffordd Casnewydd yng Nghaerdydd tua 10.30am ddydd Sul.

Cafodd y dyn 23 oed anafiadau difrifol i'w wddw ac mae o wedi cael llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Yn fuan wedi'r digwyddiad cafodd y dyn 25 oed ei arestio ac mae'n cael ei holi yng ngorsaf Heddlu Caerdydd.

Fe ddigwyddodd ar ffordd brysur yn y ddinas ac mae'r heddlu yn apelio am dystion.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.