Damwain farwol: Apêl am dystion

Mae dau o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng gyrrwr beic modur a cherddwr ar Ynys Môn.

Bu'n rhaid cau rhan o ffordd yr A5025P ger Amlwch am rai oriau brynhawn dydd Sadwrn.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.

Does yna ddim mwy o fanylion wedi eu rhyddhau.