Llofruddiaeth: Arestio dyn

Mae dyn 53 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 24 oed o Gaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i dy yn Llanrhymni 1am ddydd Sul.

Aed â'r dyn i'r Ysbyty Athrofaol lle bu farw.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

"Rydym yn apelio am unrhyw un welodd unrhyw beth amheus yn ardal Cranleigh rise i gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 1111.