Miloedd yn heidio i'r brifddinas

Gethin Jenkins
Image caption Bydd Cymru angen o leia' saith pwynt yn erbyn Lloegr i ennill y bencampwriaeth.

Bydd Stadiwm y Mileniwm yn ganolbwynt i'r byd rygbi'r penwythnos hwn, pan fydd Cymru'n herio Lloegr yng ngêm dyngedfennol pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd y gic gyntaf am 5pm gyda'r stadiwm dan ei sang gyda thorf o 74,000.

Wedi i Loegr guro'r Eidal yn Twickenham o 18-11 ddydd Sul byddai buddugoliaeth yn erbyn Cymru yn sicrhau Camp Lawn iddyn nhw - y gynta' mewn degawd.

Ond petai Cymru'n ennill o wyth pwynt neu fwy tîm Rob Howley fydd yn ennill y bencampwriaeth.

Bydd ennill o saith pwynt yn golygu bod Cymru'n ennill y bencampwriaeth oherwydd mwy o geisiau, ond os yw Lloegr yn cael dau neu fwy o geisiau, bydd Cymru a Lloegr yn rhannu'r teitl.

Mae'r tafarnau a'r gwasanaethau brys yn paratoi am achlysur prysurach na Nos Galan.

Ffyrdd ar gau

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Lecwydd, oddi ar Gyffordd 33 yr M4, am gost o £6 y car.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau ddydd Sadwrn rhwng 3:00pm - 8:00pm

  • Cau Heol y Porth yn gyfan gwbl
  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd / Boulevard de Nantes i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Tudor Street o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood; Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Tudor St.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl - Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd-y-cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rhodri Llywelyn fu'n holi cyn gapten Cymru, Robert Jones, am obeithion Cymru ddydd Sadwrn nesa'

Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), George North (Scarlets); Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Bayonne); Gethin Jenkins (capt, Toulon), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch) Ian Evans (Gweilch), Sam Warburton (Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Toby Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Scott Andrews (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), Aaron Shingler (Scarlets), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol