Diflaniad Kyle Vaughan: Heddlu Gwent yn chwilio'n ddyddiol

Kyle Vaughan Image copyright Gwent Police
Image caption Fe ddiflannodd Kyle Vaughan ar Ragfyr 30, 2012

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad dyn ifanc 24 oed o ardal Trecelyn yn parhau gyda'u hymholiadau.

Does neb wedi gweld Kyle Vaughan ers Rhagfyr 30, 2012.

Mae'r heddlu'n tybio ei fod bellach wedi marw.

Dywedodd Heddlu Gwent bod staff arbenigol yn chwilio'n ddyddiol amdano.

Mae wyth o bobl wedi eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â'i ddiflaniad.

Mae disgwyl iddyn nhw ateb eu mechnïaeth ar Fawrth 21.

Y tro diwethaf i Kyle Vaughan gael ei weld oedd ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys rhwng 11:00pm a 11:45pm ar Ragfyr 30 y llynedd.

Roedd yn gwisgo crys-T tywyll, trowsus tri-chwarter denim, esgidiau gwyn, ac yn gwisgo cadwyn aur a het dywyll.

Am 11:45pm y noson honno daeth yr heddlu o hyd i'w gar Peugeot 306 wedi ei adael ar ochr y ffordd - roedd wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu a welodd Kyle Vaughan ar Ragfyr 30, ffonio'r heddlu ar 101, neu gysylltu gydag elusen Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.