Ben Thompson: Torri nôl ar ymdrechion

Ben Thompson
Ben Thompson yn croesi Heol Lecwydd, Caerdydd, am 7:17pm nos Sadwrn, Chwefror 2, 2013

Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn torri nôl ar eu hymdrechion i ddod o hyd i Ben Thompson, 34 oed o Hwlffordd, a ddiflannodd ar ôl mynd i weld gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2.

Yn ôl yr heddlu dydyn nhw ddim yn chwilio'n ddyddiol bellach amdano, er eu bod nhw yn bwriadu parhau i chwilio yn achlysurol.

Roedd Mr Thompson wedi teithio i Gaerdydd gyda'i ffrind wedi iddo ennill tocynnau ar gyfer gêm gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe ffoniodd ei wraig Jo wedi'r gêm i ddweud wrthi ei fod yn mynd i'w hoff dafarn yn y ddinas.

Fe'i gwelwyd gan ffrindiau am y tro olaf yn Lôn y Felin tua 6.30pm.

Ben Thompson
Aeth Mr Thompson i'r gêm yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2

Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn ei ddangos yn croesi Heol Lecwydd i gyfeiriad Lawrenny Avenue am 7.17pm.

Mae'r lluniau yn ei ddangos funudau wedyn yn cerdded i lawr lôn ar waelod y ffordd honno.

Mae Mr Thompson yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra, gyda gwallt byr brown a llygaid glas.

Roedd yn gwisgo bŵts brown, jîns glas a chrys gwyn gyda streipen las denau.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, dylid cysylltu gyda'r heddlu yng Ngorsaf Bae Caerdydd ar 02920 338 465.