Cymru yn China: lluniau o'r arddangosfa

4 Mawrth 2013 Diweddarwyd 07:41 GMT

Rhai o'r gwrthrychau o Gymru sydd yn cael eu harddangos yn China.
Amgueddfa China Three Gorges Museum yn Chongqing
Amgueddfa China Three Gorges Museum yn Chongqing lle bydd arddangosfa o wrthrychau o Gymru o 4 Mawrth i 30 Mehefin.
Brigwrn Capel Garmon
Mae'r arddangosfa'n gyflwyniad i Gymru a bydd yn cynnwys sawl wrthrych pwysig o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Darganfuwyd Brigwrn Capel Garmon yn 1852 ger Capel Garmon, Conwy, ac fe'i ystyrir yn un o ddarnau pwysicaf gwaith haearn addurnol cynnar ym Mhrydain.
Cwpan aur Castell Carn Dochan
Eitem arall fydd yn ran o'r arddangosfa yw cwpan aur Castell Carn Dochan. Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain.
Four gold torcs found buried at Cefn Farm, Llanwrthwl, Powys. Middle Bronze Age, 1300-1150 BC
Ymhlith yr eitemau yn yr arddangosfa bydd torch o'r Oes Efydd a ganfuwyd yn Fferm Cefn, Llanwrthwl, Powys.
The Bard Thomas Jones 1774
Mae'r darlun yma'n seiliedig ar gerdd Thomas Gray, The Bard.
Beer mug, painted with a Druid, Cambrian Pottery, Swansea, about 1805
Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys darnau sy'n dangos hen draddodiad Celtaidd Prydain a Chymru.
Criccieth Castle
Mae Cestyll Cymru, fel Castell Cricieth yma, yn rhan bwysig 'r arddangosfa yn ogystal.
Gold snuff box Probably German or Swiss, late 18th century, precious stones added in 1872
Rhoddwyd y blwch 'snuff' yma i'r Cymro HM Stanley gan y Frenhines Fictoria.
Deep Navigation Colliery workforce
Mae treftadaeth diwydiannol Cymru hefyd yn rhan bwysig o'r arddangosfa
Welsh dresser
Bydd dresel Cymreig hefyd yn rhan o'r arddangosfa, gyda rhai o'r platiau yn dangos patrwm 'Willow" sy'n seiliedig at stori o China.