Seremoni i ddadorchuddio seren Richard Burton yn Hollywood

  • 1 Mawrth 2013
Richard Burton
Image caption Roedd teulu Richard Burton yn bresennol yn y seremoni

Cafodd seren i gofio'r actor o Gymru Richard Burton ei dadorchuddio ar balmant yn Hollywood ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae ger y seren i'w gyn-wraig, Elizabeth Taylor.

Roedd teulu'r actor yn bresennol yn y seremoni.

Roedd y ddau yn fyd-enwog am eu doniau fel actorion yn ogystal â'u perthynas dymhestlog.

Bu'r ddau yn briod ddwywaith gyda'i gilydd ac fe fyddan nhw nawr wrth ochr ei gilydd ar y palmant yn Hollywood.

Codwyd £20,000 gan ymgyrch i ariannu'r seren, gyda chwmni cynhyrchu ffilmiau o Hollywood yn cyfrannu arian hefyd.

Yr actor Michael Sheen oedd y siaradwr gwadd yn ystod y seremoni.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn denu mwy o arian i'r diwydiant ffilmiau yng Nghymru.

Mae'r dyddiad yn arwyddocaol hefyd gan fod hi'n 50 mlynedd ers ffilm Cleopatra lle serennodd Taylor a Burton.

Dechreuodd y berthynas pan oedd y ddau'n actio yn y ffilm cyn iddyn nhw actio mewn naw ffilm, gan gynnwys The Taming Of The Shrew a Who's Afraid Of Virginia Woolf?

Roedd nith i'r actor, Siân Owen, yn Los Angeles ar gyfer y dadorchuddio a bydd rhaglen arbennig Seren Burton yn cael ei darlledu nos Iau Mawrth 14 ar S4C a fydd yn dathlu cyfraniad Burton drwy atgofion rhywun oedd yn agos iawn ato.

"O'r diwedd mae'r garreg yn mynd lawr ar Hollywood Boulevard, a seren i'n Wncwl," meddai Siân Owen, sy'n cytuno fod gosod ei seren drws nesa i un Elizabeth Taylor yn addas iawn.

"Roedden nhw wastad moyn bod gyda'i gilydd, ac o'r diwedd dyma'r ddwy seren gyda'i gilydd."

Straeon perthnasol